Agor cwt sy'n gwerthu llefrith tec-awe yn Nhreffynnon
- Cyhoeddwyd
Mae llecyn tawel yng nghefn gwlad Sir y Fflint wedi dod yn gyrchfan annisgwyl i ffans tec-awe.
Ar 1 Ionawr, agorodd Llaethdy Mynydd Mostyn ger Treffynnon gwt sy'n gwerthu llaeth yn syth o'r fferm gerllaw o beiriant.
Daw'r fenter newydd hon yn fuan ar ôl agor dau adnodd tebyg yn Hendy-gwyn, Sir Gaerfyrddin ac Abergwaun, Sir Benfro.
Gyda chefnogaeth asiantaeth Cywain, penderfynodd perchnogion Mynydd Mostyn - Einion Jones, 40, ac Elliw Jones, 31 - ei bod hi'n werth mentro yng nghanol y pandemig.
"Roedden ni wedi sôn am y peth rhyw ddwy flynedd yn ôl, a daeth dim ohono fo," meddai Elliw.
"Ond fis Gorffennaf, mi ddywedon ni 'go for it' - pam ddim? Os 'da ni'n mynd i wneud o, hwn 'di'r amser."
I Hufenfa De Arfon mae rhan fwyaf o gynnyrch y gwartheg godro yn mynd fel rheol, ac mae'r cwmni hwnnw wedi rhoi eu sêl bendith i'r prosiect.
Mae'r llefrith sy'n cael ei werthu o'r peiriant newydd yn cael ei basteureiddio ar y fferm gan y cwpl.
Yn ogystal ag arallgyfeirio er lles y busnes, mae'r teulu'n falch o allu cynnig llaeth, ysgytlaeth a phaneidiau i bobl leol mewn cyfnod lle mae llawer o adnoddau eraill ar gau.
"Mae'n braf cael rhoi'n ôl i'r gymuned," meddai Elliw. "Rydan ni wedi dod yn reit glos ers y cyfnod clo cyntaf y llynedd."
Bellach, bob bore, mae Elliw, Einion a'u plant yn croesawu ciwiau hir o bobl i'r cwt.
"Do'n i byth yn meddwl byddai'r milkshakes mor boblogaidd - dyna sy'n denu'r rhai ifanc," ychwanegodd Elliw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd9 Mai 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020