Penbleth newydd yn ymwneud ag achos Trevaline Evans
- Cyhoeddwyd
Mae diflaniad Trevaline Evans, perchennog siop hen bethau yn Llangollen, 30 mlynedd yn ôl yn dal yn ddirgelwch, a rŵan mae cofeb iddi yn achosi penbleth arall.
Mae cerddwyr wedi bod yn pendroni ynglŷn â phlac sydd wedi ei osod ar fainc ger llwybr poblogaidd, dros 30 milltir o Langollen.
Mae'r arysgrif arno'n dweud: "In memory of Trevaline Evans Vanished 16/6/1990. Found - Rhuddlan GC 14/3/2019 Removed 19/3/2019 RIP".
Ond nid oes neb i weld yn gwybod pwy osododd y plac metel ar y fainc, gerllaw llwybr sy'n dilyn yr hen lein reilffordd rhwng Prestatyn a Dyserth, na pham y dewiswyd y llecyn hwnnw.
Cafodd ei osod ar y fainc o fewn yr wythnosau diwethaf, ac o fewn ychydig ddiwrnodau roedd wedi cael ei ddifrodi.
Gadawodd Mrs Evans, 52, ei siop hen bethau yn Stryd yr Eglwys, Llangollen ar 16 Mehefin, 1990, ar ôl gadael nodyn yn y ffenest yn dweud y byddai yn ei hôl mewn 10 munud.
Cafodd ei gweld am y tro olaf ger ei chartref yn Stryd y Farchnad oddeutu dwy awr yn ddiweddarach. Roedd ei char wedi ei adael wrth y siop ac ni chafodd unrhyw arian ei gymryd o'i chyfrif banc.
Mae'r diflaniad yn parhau yn ddirgelwch i'r heddlu, ac yn cael ei drin fel achos llofruddiaeth.
Chwilio am weddillion dynol
Cafodd ei gŵr, Richard, ei arestio yn 2001, a'i ryddhau heb gyhuddiad yn ddiweddarach. Bu farw yn 2015.
Ar adeg ei diflaniad roedd Mr Evans yn gweithio ar fyngalo'r cwpwl yn Rhuddlan, lle'r oeddynt yn bwriadu ymddeol.
Dwy flynedd yn ôl, yn dilyn gwybodaeth gan y brodyr Andrew a Lee Sutton, aeth Heddlu Gogledd Cymru ati i dyllu o dan loriau'r bar yng Nghlwb Golff Rhuddlan, ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw beth.
Cwynodd y brodyr i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu am y modd y deliodd y llu â'r ymchwiliad yno. Cyfeiriwyd y gŵyn yn ôl at Heddlu Gogledd Cymru, ac fe'i gwrthodwyd gan y llu.
Roedd y brodyr yn honni fod camera arbennig yr oeddynt wedi ei brynu yn dangos olion dynol o dan y llawr, ond yn ôl y ddau, roedd y gweddillion wedi cael eu symud erbyn i'r heddlu ymchwilio yno.
Mae'r ddau frawd yn dal i gredu yn yr hyn a welsant, ac yn ystyried eu camau nesaf, ond maent yn gwadu bod wnelo nhw unrhyw beth â'r plac ar y fainc, na chwaith gydag arwydd tebyg a osodwyd ger byngalo'r teulu Evans yn Rhuddlan. Cafodd yr arwydd hwnnw ei symud oddi yno'n ddiweddarach.
'Rhyfedd iawn'
Dywedodd Lee Sutton ei fod wedi bod draw i weld y fainc ar ôl i ffrind ddweud wrtho amdani.
"Mae'n rhyfedd iawn," meddai.
"Wn i ddim pwy fasa'n gwneud hyn a pham eu bod wedi dewis ei roi yn y fan yma."
Ychwanegodd ei fod wedi clywed fod rhywrai wedi cynnal gwylnos ger y fainc ychydig cyn y Nadolig.
Roedd ei frawd, Andrew, hefyd mewn penbleth.
"Mae 'na lot mwy i ddod allan am hyn ond does gen i ddim syniad pwy allai fod yn gyfrifol am y plac na pham," meddai.