Ysgol Abersoch: 'Annheg cynnal ymgynghoriad' yn sgil Covid

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Abersoch

Wrth i Gyngor Gwynedd ddechrau'r broses ymgynghori ar ddyfodol Ysgol Gynradd Abersoch, mae cynghorydd yr ardal wedi dweud nad ydi'n bosib cynnal ymgynghoriad teg a chael barn y gymuned gyfan oherwydd y cyfyngiadau yn sgil y pandemig.

Dyma eildro i'r cyngor gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol, sydd â 10 o blant, gan fod pwyllgor addysg wedi gofyn i gabinet y cyngor ail-ystyried y mater.

Ond dywed Cyngor Gwynedd eu bod yn dilyn gofynion Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion.

Mae swyddogion y cyngor yn dadlau nad ydy cynnal ysgol â 10 o blant ynddi yn ymarferol - yn addysgol nac yn ariannol - ac maen nhw'n awyddus i symud y plant i ysgol Sarn Bach rhyw filltir a hanner i ffwrdd.

Ond mae cymuned Abersoch yn awyddus i gadw'r ysgol yn agored.

Dywed is-gadeirydd y llywodraethwyr, Eifiona Woods fod yr ysgol wedi bod yn y pentref ers bron i 100 mlynedd.

"Mae wedi rhoi addysg arbennig i sawl cenhedlaeth yn yr ardal ac mae yna berthynas agos iawn rhwng yr ysgol a'r gymuned ac mae'r berthynas yma yn hanfodol er mwyn cryfhau'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn y pentre'," meddai.

Cost o addysgu'n ffactor

Mae hi'n costio £17,000 y flwyddyn i addysgu pob disgybl yn ysgol Abersoch tra bo'r cyfartaledd drwy'r sir yn ychydig dros £4,000.

Hefyd mae yna ddadl y byddai'r plant yn cael profiad cyfoethocach mewn ysgol fwy.

Anghytuno mae cyn-bennaeth ysgol Abersoch Anna Jones: "Maen nhw'n dweud yn yr ymgynghoriad nad ydy'r plant mewn ysgol fach yn cael yr un manteision yn gymdeithasol ond, i mi, maen nhw'n cael sylw unigol, maen nhw yn gwneud ffrindiau hefo pob un sydd yn y dosbarth a does dim un plentyn yn mynd trwy'r rhwyd.

"Mewn ysgol fach fel hyn maen nhw'n cael hanes lleol y pentre', ond wrth fynd i ysgol arall fyddan nhw ddim yn cael hynny.

"Mae'n warth fod yr ysgol fach yma mewn peryg o gael ei chau a hithau yn y pentref mwyaf yng Ngwynedd, a dyma'r ffordd i Gyngor Gwynedd ddangos [y ffordd]... miliwn o siaradwyr - dechreuwch yn Abersoch."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y cynghorydd Dewi Wyn Roberts, mae ymgynghori yn ystod pandemig yn dasg 'amhosib'

Dadl y cynghorydd lleol Dewi Wyn Roberts ydy ei bod yn gwbl annheg cynnal ymgynghoriad yng nghanol cyfnod clo gan na all pawb yn y gymuned fynegi barn.

"Mae bron yn amhosib i ni fel cymuned ddod at ein gilydd i drafod pethau dan amgylchiadau'r pandemig," meddai.

"Dwi hefyd yn pryderu sut mae'r cyngor yn mynd i ymgynghori hefo pob adran o'r gymuned, nid yn unig y rhai sydd â chyswllt a'r ysgol."

'Dyletswydd i sicrhau'r addysg orau'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod swyddogion y Cyngor yn hyderus fod y broses ymgynghori yn cael ei chynnal yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.

"Nid ar chwarae bach mae'r Cyngor yn ystyried dyfodol ysgol a chynnal ymgynghoriad statudol," meddai, "ond mae gan yr awdurdod ddyletswydd i sicrhau'r addysg a'r profiadau gorau i holl blant y sir."

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 16 Chwefror, cyn i gabinet y cyngor ystyried yr ymatebion.

Mae'r cyngor eisoes wedi datgan bwriad i gau'r ysgol ar ddiwedd tymor yr haf.

Pynciau cysylltiedig