Pro14: Dreigiau 20-28 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Dragons v OspreysFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

George North sgoriodd ail gais y Gweilch yn Rodney Parade

Y Gweilch oedd yn fuddugol mewn darbi Gymreig gyffrous yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Yr ymwelwyr sgoriodd gyntaf gyda gôl gosb gan Stephen Myler, cyn i Josh Lewis unioni'r sgôr.

Aeth y Gweilch i lawr i 14 chwaraewr wrth i Luke Morgan gael cerdyn melyn, ac fe lwyddodd y Dreigiau i gymryd mantais yn syth gyda chais gan Jared Rosser.

Er bod ganddynt un dyn yn llai, llwyddodd y Gweilch i daro 'nôl gyda chais gan Mat Protheroe a rhagor o bwyntiau o droed Myler i'w gwneud yn 10-13 i'r ymwelwyr ar hanner amser.

Fe wnaeth Lewis unioni'r sgôr unwaith eto ar ddechrau'r ail hanner, cyn i George North groesi'r gwyngalch i roi'r Gweilch ar y blaen unwaith eto.

Ond funudau'n ddiweddarach roedd hi'n gêm gyfartal eto wedi i'r canolwr Jamie Roberts groesi am gais i'r Dreigiau, dim ond i gôl gosb arall gan Myler roi'r Gweilch yn ôl ar y blaen gyda phum munud yn weddill.

Llwyddodd y Gweilch i selio'r fuddugoliaeth o'r diwedd yn y munudau olaf, wrth i Scott Otten groesi am drydydd cais y rhanbarth cyn i Lewis weld cerdyn melyn i'r Dreigiau.