Ymchwiliad i lifogydd Dinas Powys cyn y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Road in Dinas Powys floodedFfynhonnell y llun, Tony Caley-Burnell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna lifogydd difrifol yn Ninas Powys yn ystod mis Rhagfyr

Mae trigolion yn Ninas Powys ym Mro Morgannwg am sicrhau na fydd y llifogydd a gafwyd yno yn ystod cyfnod y Nadolig yn digwydd eto.

Dywed y gymuned fod gylïau llawn wedi achosi i Afon Tregatwg orlifo.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru mai y Rhagfyr gwlypaf am 70 mlynedd oedd yn gyfrifol am y llifogydd.

Maen nhw, Cyngor Bro Morgannwg a Dŵr Cymru yn cynnal ymchwiliad.

Disgrifiad,

Llifogydd rhwng Penarth a Dinas Powys ym Mro Morgannwg

Afon fechan yw Afon Tregatwg - un o'r lleiaf yng Nghymru - ond wedi iddi orlifo ddeuddydd cyn y Nadolig roedd y difrod yn fawr.

Cafodd dros 100 o gartrefi lifogydd a bu'n rhaid i rai trigolion dreulio'r Nadolig yn eu llofftydd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe lifodd y dŵr drwy gartref Wendy Gilligan

Mae Wendy Gilligan yn byw yn Rhodfa Greenfield ac mae nant fechan yn llifo y tu ôl i'w gardd.

"Roedd y dŵr lan i fy mhigyrnau, yn difetha fy ngharpedi a'r dodrefn ac nid fi oedd yr unig un," meddai.

"Gyda'r pandemig roedd gennym ddigon o broblemau fel mae," ychwanegodd.

Dywed nifer yn y gymuned mai gylïau a chwteri llawn oedd yn gyfrifol. Ond yn ôl Ms Gilligan does ddim ots pwy neu beth oedd ar fai - yr hyn sy'n bwysig "yw na fydd yn digwydd eto".

'Mwy o adnoddau gan y cyngor'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg: "Yn gyntaf mae'r cyngor am estyn eu cydymdeimlad gyda'r rhai a gafodd lifogydd yn eu cartrefi.

"Fe olygodd y glaw trwm bod nifer o gylïau yn llawn neu'n rhannol llawn gan rwbel a mwd ac felly doedd hi ddim yn bosib iddynt waredu dŵr wrth lifo i afonydd."

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'r cyngor yn glanhau gylïau yn gyson ac fe ddigwyddodd hynny ddiwethaf ar 15 Rhagfyr - ychydig dros wythnos cyn y glaw trwm.

"Ry'n yn neilltuo adnoddau ychwanegol er mwyn archwilio a glanhau, petai angen, carthffosiaeth priffyrdd yn yr ardaloedd lle bu llifogydd.

"Yn ogystal bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer fawr o gartrefi eu difrodi yn sylweddol

Dywedodd Michael Evans, un o benaethiaid Cyfoeth Naturiol Cymru yn ne Cymru: "Mae llifogydd yn gallu difetha bywydau pobl ac ry'n yn meddwl am y rhai a ddioddefodd wedi'r glaw trwm cyn y Nadolig.

"Roedd Rhagfyr 2020 yn ne-ddwyrain Cymru yr un gwlypaf ers 70 mlynedd ac fe gafodd Bro Morgannwg 45mm o law wedi iddi fod yn bwrw'n drwm am bedair awr.

"Ry'n yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddeall natur llif yr afon ac ar y cyd â Llywodraeth Cymru byddwn yn cyflwyno mesurau i sicrhau na fydd llifogydd o'r fath yn taro Dinas Powys eto."

Pynciau cysylltiedig