Gohirio gemau rygbi Ewropeaidd oherwydd Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Scarlets

Mae'r cystadlaethau rygbi Ewropeaidd - Cwpan Pencampwyr Ewrop a Chwpan Her Ewrop - wedi eu gohirio dros dro, meddai'r trefnwyr.

Daw ar ôl i lywodraeth Ffrainc benderfynu na fyddai clybiau'r wlad yn cael chwarae gemau fis yma.

Dywedodd y corff rheoli, European Professional Club Rugby (EPCR), nad oedd dewis ond gohirio pob gêm oedd wedi eu trefnu at benwythnosau 16 a 23 Ionawr.

Dywedodd EPCR y byddai'n gobeithio gorffen y cystadlaethau "cyn gynted ag sy'n bosib".

Pynciau cysylltiedig