Ateb y Galw: Y canwr Trystan Llŷr Griffiths

  • Cyhoeddwyd
Trystan Llŷr GriffithsFfynhonnell y llun, Trystan Llŷr Griffiths

Y canwr Trystan Llŷr Griffiths sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Gwawr Edwards yr wythnos diwethaf.

Mae Trystan yn un o leisiau cyfarwydd Cymru y dyddiau yma. Cododd galon nifer drwy ganu ar stepen ei ddrws ffrynt, dolen allanol yn ystod y cyfnod clo y llynedd, a bu hefyd yn rhan o'r criw dewr o gantorion a dynnodd eu dillad ar y rhaglen Heno ar S4C er mwyn croesawu'r flwyddyn newydd mewn steil!

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae'n galed iawn cofio un atgof clir pan o'en i'n ifanc ond dwi yn cofio fel ddoe cael 'bishgis' a llath yn Ysgol Feithrin Ffynnonwen ar ford bren hir gyda phawb arall.

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Wel dwi'n cofio Eleri Siôn yn dod i gyfweld â ni fel teulu ar gyfer rhyw raglen radio a pob un o ni'n gorfod ateb yr un cwestiyne, yn cynnwys hwn.

Os dwi'n cofio'n iawn, oedd Mam gyda'r hots am Bryn Fôn a Dad gyda'r hots am Amanda Protheroe-Thomas, ond mynd am un o'r Spice Girls nes i, sef Emma Bunton!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trystan yn amlwg yn hoffi bach o sbeis!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

'Sai'n foi llyfre na podlediade ond dwi yn licio ffilm neu series dda, a ffilms natur. The Day After Tomorrow yw fy hoff ffilm.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Gogledd Sir Benfro. Dwi wastad wedi bod yn foi gytre a os na fydden i wedi gorfod mynd bant i ddilyn gyrfa mewn canu bydden i'n sicr dal yn byw 'na.

Ma' mynd nôl i ogledd Sir Benfro yn mynd yn fwy fwy bwysig i fi nawr yn enwedig gydag Efa y ferch, a finne bant yn gweithio dramor am gyfnode hir. Ma' cal mynd nôl i ardal lle ma' lot fowr o deulu a ffrindie yn byw yn bwysig iawn i ni. Hefyd 'y'n ni ond tafliad carreg o'r arfordir godidog heb sôn am gael mynydde'r Preseli ar ein stepen drws.

Ma'r pandemig hyn yn sicr wedi tanlinellu faint mor bwysig yw'r ardal i ni fel teulu ifanc.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Angladd Datcu.

O archif Ateb y Galw:

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n lico meddwl 'mod i ddim yn mynd yn embarrassed yn rhwydd iawn achos dwi ddim yn cymryd yn hunan yn rhy serious, ond ma rhaid fi gyfadde' o'n i'n teimlo fel ffŵl amser nes i newid IAITH yng nghanol cân yn un o'r cyngerdde cynta' 'nes i.

Dechreues i ganu yr unawd If with all your hearts allan o'r oratorio Elijah yn Gymraeg, a hanner ffordd trwyddo, mas o unman newidiais i'r Saesneg am sawl llinell heb sylwi. Nes i ail-ddechre a ddigwyddodd gwmws yr un peth 'to nes bod Gwen (y wraig), oedd yn gwybod y geirie diolch byth, wedi gweiddi'r gair nesa ata'i o'r gynulleidfa... Ma'i dal yn atgoffa fi am hyn!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Hapus, cystadleuol, drygionus.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Alla'i byth dewis un noswaith achos ma' pob un gyda'i uchafbwyntie'i hunain, ond ma' sawl noswaith cofiadwy wedi bod dros y blynydde, boed yng nghlwb rygbi Crymych ar ôl ennill y gynghrair a chael dyrchafiad, noswaith ein priodas lle oedd ca'l llond lle o deulu a ffrindie yn joio yn sbeshal, mas yng Nghaerdydd, ambell i 'gracyr' o noswaith mas yn Zurich pan dreulies flwyddyn yn byw 'na, a hefyd wedi joio sawl noswaith gyda bois Ar Ôl Tri ar ôl cyngerdd neu Eisteddfod yn yr hyn ma' nhw'n lico galw'n 'Teithio'r Fro'!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Wel byse cal drincsen fach neu hyd yn oed wers ganu gyda rhywun fel Franco Corelli yn ddiddorol iawn jest i w'bod o le oedd yr holl bŵer yn ei lais yn dod.

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Franco Corelli, y tenor o'r Eidal â'r llais pwerus, yn 1964

Beth yw dy hoff gân a pham?

Dwi 'di bod yn hoff o ganeuon David Gray ers blynydde a ma' This Year's Love yn un o'r ffefrynne. Os dwi newydd ganu mewn cyngerdd lle ma gofyn i fi ddreifio gytre ma'r CD'n mynd mewn i ymlacio ac i gael gwared ar beth adrenaline sy'n bodoli ar ôl perfformio.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wel ma' sawl un gyda fi yn ôl Gwen ond os oes rhaid i fi gyfadde' i rhywbeth, falle mai tynnu sanne bant pan dwi'n ishte ar y soffa yn wotsho'r teledu a'u gadel nhw o fla'n y teledu!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Yn sicr fydden i'n cael pawb dwi'n eu caru at ei gilydd i gael parti mawr gyda digon o sbort a lot o ganu!

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Am dair blynedd fues i'n gweithio'n llawn amser fel peiriannydd drysau diwydiannol.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rhys Meirion #tywysogcymru hehe!

Disgrifiad o’r llun,

Dyma Dywysog Cymru yn ôl Trystan!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - Cig Eidalaidd, olives a bara. Prif gwrs - Pei cyw iâr, cennin a madarch Gwen. Pwdin - Fondant siocled.

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Welsh Whisperer

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw