Ateb y Galw: Amanda Protheroe Thomas

  • Cyhoeddwyd
AMANDA PT

Y cyflwynydd Amanda Protheroe Thomas sy'n caele i holi yn dwll gan Cymru Fyw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan yr actor Ieuan Rhys yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod yn llawn cyffro pan wnaeth fy mrawd roi ei feic Tomahawk i fi - ac wedyn nes i ffeindio allan fod y brêcs ddim yn gweithio!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

John Barnes. O'n i wrth fy modd gyda phêl-droed ac oedd John Barnes yn dipyn o ffefryn.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio ffilmio i raglen 'Pacio' yn Amsterdam, ac ro'n i'n gorfod llyncu'r pysgodyn ma' - cuisine lleol. O'n i'n taflu lan bob tro o'n i'n trio ei fwyta fe, odd e'n ofnadwy. Bob tro ro'n i ar y teledu wedyn, 'Uned 5' neu rhywbeth, bydde nhw'n dangos y clip yna o fi'n stryglo i fwyta'r pysgodyn.

Disgrifiad o’r llun,

"O na! gob'ithio nad y'n nhw'n mynd i ddangos y clip pysgodyn 'na 'to!"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n crio yn eitha aml wrth edrych ar y newyddion, straeon o ddioddefaint yn fy ypsetio i.

Hefyd, roedd hysbyseb nadolig John Lewis eleni yn fy ngwneud i lefen - oherwydd neges y peth, y dyn unig ar y lleuad a bod angen gofalu am ein gilydd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n ofnadwy am edrych dros ysgwydd pobl i ddarllen y papur newydd. Dwi'n gwneud hynny ar y tiwb yn Llundain weithie - ac mae'n dueddol o wylltio pobl.

Disgrifiad o’r llun,

"Yw hi'n brathu?"

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bae Tor ar Benrhyn Gŵyr, rhwng Bae'r Tri Chlogwyn ac Oxwich.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan ro'n i'n cyflwyno 'Sgorio' roeddwn i yn Barcelona pan wnaethon nhw ennill y Primera División a dod yn bencampwyr Sbaen. Roeddwn i ar y stryd enwog La Ramblas gyda'r cefnogwyr ac yn cael fy nghario fyny yn yr awyr - noson wych!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Doniol (yn fy marn i), dibynadwy ac anturus.

Beth yw dy hoff lyfr?

Wrth fy modd a llyfrau coginio, felly dwi'n meddwl 'Gordon Ramsay's World Kitchen'.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Louis Van Gaal ddim yn cael cystal llwyddiant ers i Amanda roi'r gorau i'w holi ar 'Sgorio'

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy mhants lwcus. Dwi'n gwisgo dillad isa' coch pan fo Cymru'n chwarae.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Yn y sinema, 'Everest' ac ar y teledu y ffilm 'Elf'.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Yn ddelfrydol Cameron Diaz, neu Goldie Hawn efallai - mae hi'n ddoniol.

Dy hoff albwm?

Wrth fy modd efo Frank Sinatra, ond hefyd yn licio Tiny Tempah - dibynu sut ddiwrnod dwi'n gael.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

O'n i'n byw ar Ynysoedd y Cayman am gyfnod, ac yno o'n i'n arfer dal cimwch yn y bore a mynd a fe i far ar lan y môr erbyn cinio i'w goginio, gyda gwydred bach o rum. Dyna'r pryd delfrydol ro'n i'n arfer ei gael.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Amanda'n trafod rhinweddau John Barnes gyda Dylan Ebenezer

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Gofodwr, i gael y profiad anhygoel o fynd i'r gofod ac edrych lawr ar y byd.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Morgan Jones