Galw am ymestyn cynnig data am ddim i Gymru hefyd

  • Cyhoeddwyd
GliniadurFfynhonnell y llun, PA

Fe ddylai'r cynlluniau i gwmnïau ffôn gynnig data am ddim i ddisgyblion yn Lloegr fod ar gael yng Nghymru hefyd, yn ôl y Comisiynydd Plant.

Mae cwmnïau fel EE, BT, Three a Virgin oll wedi cytuno i roi data am ddim i deuluoedd difreintiedig yn Lloegr wedi iddyn nhw ddod i gytundeb gydag Adran Addysg Llywodraeth y DU.

Y nodydy rhoi mynediad â'r we i unrhyw ddisgyblion sydd heb fand eang gartref, ond hyd yma nid oes cytundeb tebyg mewn lle yng Nghymru.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland ei bod yn teimlo bod gan gwmnïau gyfrifoldeb i wneud yr un cynnig i bob rhan o'r DU.

Mae'r cwmnïau wedi dweud y byddan nhw'n hapus i drafod ymestyn y cynllun i rannau eraill o'r DU, tra bod Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod yn cynnal trafodaethau gyda'r cwmnïau.

Disgrifiad o’r llun,

"Fe ddylai hi wedi bod yn amlwg i'r cwmnïau hyn bod yr angen am y gwasanaeth," meddai'r Athro Sally Holland

"Mae 'na angen amlwg am hyn a dydw i ddim yn poeni pa ochr sy'n cymryd y cam cyntaf," meddai'r Athro Holland.

"Mae gan y cwmnïau yma gwsmeriaid yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal â Lloegr.

"Rwy'n teimlo y dylen nhw fod yn gwneud yr un fath o gynigion i blant a theuluoedd ym mhob gwlad.

"Os ydy hynny'n cymryd sgwrs gyda Llywodraeth Cymru, yna byddwn yn annog y llywodraeth i wneud hynny.

"Fe ddylai hi wedi bod yn amlwg i'r cwmnïau hyn bod yr angen am y gwasanaeth gan blant lle bynnag y maen nhw."

Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun mewn lle ers Ebrill 2020, sydd wedi dosbarthu 75,000 o ddyfeisiau MiFi gan gwmnïau EE, BT a Vodafone i ddisgyblion.

Pynciau cysylltiedig