Gweinidog i drafod sefyllfa asesiadau gyda disgyblion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
DosbarthFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i nifer yr achosion coronafeirws ostwng cyn ystyried pryd y bydd modd dychwelyd i'r ystafell ddosbarth

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud ei bod yn disgwyl i dderbyn cyngor ynglŷn ag a oes angen newid cynlluniau ar gyfer asesiadau sydd wedi'u canslo oherwydd Covid-19.

Ddydd Gwener dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai ysgolion a cholegau yn aros ar gau nes hanner tymor mis Chwefror oni bai fod "gostyngiad sylweddol" yn nifer yr achosion.

Mae asesiadau mewnol, oedd fod i ddechrau fis nesaf, wedi cael eu canslo hefyd.

Dywedodd Kirsty Williams ei bod yn disgwyl i glywed gan ymgynghorwyr a myfyrwyr am y ffordd orau ymlaen.

Ychwanegodd y bydd yn derbyn rhagor o gyngor gan grŵp o benaethiaid ysgolion a cholegau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty Williams ei bod yn disgwyl i glywed gan ymgynghorwyr a myfyrwyr am y ffordd orau ymlaen

"Fe fydda i yn ymgynghori gyda phobl ifanc yr wythnos hon am y sefyllfa ddiweddaraf a byddwn yn cydweithio i newid ein cynlluniau os oes angen," meddai wrth raglen BBC Politics Wales.

"Ar ôl gwneud hynny byddwn yn rhoi eglurder cyn gynted â phosib."

'Achosion angen gostwng cyn ystyried ailagor'

Ychwanegodd Ms Williams bod yn rhaid i nifer yr achosion coronafeirws ostwng cyn ystyried pryd y bydd modd i ddisgyblion ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth.

"Does dim amgylchedd sy'n hollol ddiogel yn y pandemig hwn, a dydyn ni erioed wedi dweud hynny," meddai.

"Yr hyn allwch chi ei wneud ydy gwneud pethau mor ddiogel â phosib.

"Dyna ydym ni wedi ymdrechu i'w wneud a dyna mae athrawon, penaethiaid ac awdurdodau lleol wedi gweithio'n galed i sicrhau."

Blaenoriaeth brechlyn i ba staff?

Fe wnaeth Ms Williams hefyd egluro'r polisi ar flaenoriaethu staff mewn ysgolion anghenion arbennig ar gyfer cael eu brechu.

Dywedodd mai staff sy'n darparu gofal ble mae angen cyswllt agos â disgybl yn unig fyddai'n gymwys ar gyfer cael blaenoriaeth.

"Mae 'na bobl sy'n gweithio yn ein hysgolion arbennig sy'n gwneud gwaith tebyg iawn i staff gofal yn y gymuned," meddai.