Ysgolion ar gau nes bod 'gostyngiad sylweddol' mewn achosion
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgolion a cholegau yn aros ar gau os nad oes "gostyngiad sylweddol" yn lefelau Covid-19 yng Nghymru, yn ôl y Prif Weinidog.
Cadarnhaodd Mark Drakeford hefyd y bydd y cyfnod clo presennol yn cael ei ymestyn a'i "gryfhau".
Mae hyn yn golygu y bydd busnesau sydd ddim yn hanfodol, lleoliadau lletygarwch, adeiladau trwyddedig a chyfleusterau hamdden yn parhau ar gau.
Dywedodd Mr Drakeford bod y pandemig "wedi cyrraedd pwynt arwyddocaol".
Ychwanegodd wrth raglen Post Cyntaf fore Gwener fod y llywodraeth "eisiau gweld plant yn ôl yn yr ysgolion, maen nhw wedi bod ar eu colled y llynedd... ond mae hyn yn dibynnu pob tro ar gyd-destun y feirws".
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu'r cyfyngiadau cyn gwneud cyhoeddiad swyddogol yn y gynhadledd amser cinio ddydd Gwener.
Dysgu o bell
Mae Cymru wedi bod mewn cyfnod clo lefel 4 ers 20 Rhagfyr, mewn ymdrech i ostwng lefelau'r feirws.
Roedd ysgolion a cholegau wedi cael gwybod y byddan nhw'n addysgu o bell nes o leiaf 18 Ionawr, ond bydd hyn yn parhau nes hanner tymor mis Chwefror oni bai fod nifer yr achosion yn gostwng yn sylweddol erbyn adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru ar 29 Ionawr.
Yn siarad cyn y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y byddan nhw'n edrych ar y posibilrwydd y gallai rhai disgyblion ddychwelyd ynghynt, "fel rheiny sy'n astudio am asesiadau, neu'r plant ieuengaf, sy'n ei gweld yn fwy anodd dysgu o bell".
Bydd plant bregus a phlant gweithwyr allweddol yn parhau i allu cael mynediad i ysgolion.
Pwysleisiodd Ms Williams bod ysgolion a cholegau yn llefydd diogel, ond eu bod yn gallu achosi mwy o gymysgu yn y gymuned ehangach.
"Rydym yn cymryd y camau hyn heddiw oherwydd bod yr amrywiad newydd hwn yn llawer mwy heintus ac yn arwain at fwy o bobl yn yr ysbyty," meddai mewn fideo ar Twitter., dolen allanol
"Mae ysgolion a cholegau wedi bod yn amgylcheddau diogel yn ystod y pandemig ac mae hynny'n parhau i fod yn wir.
"Fodd bynnag, mae adroddiad diweddaraf y Gell Cyngor Technegol yn glir ar gyfraniad addysg. Rydym yn gwybod y gall lleoliadau ysgolion a cholegau gyfrannu at gymysgu cymdeithasol ehangach y tu allan i'r amgylchedd addysg ac, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan i atal y feirws hwn."
Mae addysg bellach hefyd wedi cael ei effeithio gan y cyhoeddiad, gyda Phrifysgol Caerdydd yn gweithredu dysgu ar-lein yn unig tan 22 Chwefror, heblaw am ychydig o eithriadau yn cynnwys myfyrwyr meddygol a nyrsio.
'Pwysicach nag erioed i ddilyn y rheolau'
Mae'r llywodraeth wedi dweud ei fod yn ystyried a oes angen gosod rhagor o fesurau ar archfarchnadoedd er mwyn diogelu cwsmeriaid a staff.
Ar hyn o bryd, bydd arddangosfeydd siopau yn aros ar gau. Mae hynny'n cynnwys unrhyw arddangosfeydd sy'n gwerthu ceginau, ystafell ymolchi, dodrefn a cheir ble mae modd edrych ar eitemau a'u harchebu ar gyfer y dyfodol.
Ond dywedodd y llywodraeth gall siopau dal weithredu gwasanaethau "clicio a chasglu."
Maen nhw hefyd yn trafod beth yn fwy allai cyflogwyr ei wneud er mwyn diogelu gweithwyr wrth eu gwaith a chefnogi'r rheiny sy'n gweithio o adref.
Dywedodd Mr Drakeford ddydd Gwener bod "rhaid i bawb aros gartref i achub bywydau", wrth gadarnhau y bydd Cymru gyfan yn parhau dan gyfyngiadau lefel 4 am y tro.
"Mae nifer yr achosion yng Nghymru'n parhau i fod yn uchel iawn ac mae ein GIG o dan bwysau gwirioneddol a pharhaus," meddai.
"Bydd angen ymdrech enfawr i frechu pawb ac, er bod diwedd y pandemig hwn yn y golwg, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dilyn y rheolau ac yn aros gartref.
"Rydym wedi gwneud cymaint o aberth gyda'n gilydd a rhaid i ni beidio â stopio nawr.
"Mae'r straen newydd yma'n ychwanegu dimensiwn newydd a digroeso at y pandemig.
"Ble bynnag mae cymysgu; ble bynnag mae pobl yn dod at ei gilydd, mae'r straen newydd yn lledaenu - mae'n hynod drosglwyddadwy ac yn lledaenu'n gyflym iawn o berson i berson."
'Croesawu'r penderfyniad'
Ymatebodd UCAC i'r cyhoeddiad gan ddweud ei fod yn croesawu'r penderfyniad ar sail feddygol.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae'r penderfyniad wedi'i seilio ar wybodaeth feddygol ac yn cadw at egwyddor allweddol y Gweinidog Addysg mai 'tystiolaeth a gwybodaeth' yw'r unig fodd o ennill 'hyder rhieni, staff a myfyrwyr'.
"Bydd datganiad cynnar yn rhoi peth cyfle i ysgolion a cholegau gynllunio ymlaen llaw ar gyfer sicrhau addysg ar gyfer disgyblion a myfyrwyr.
"Bydd hefyd yn rhoi cyfle i rieni wneud trefniadau priodol gan gofio y bydd nifer sylweddol o staff ysgol eu hunain yn rhieni.
Ychwanegodd: "Mae UCAC wedi ymrwymo i weithio ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i sicrhau y bydd staff a disgyblion yn gallu dychwelyd i'r ysgol a'r coleg pan mae'n ddiogel i wneud hynny."
Asesiadau mewnol wedi'u canslo
Yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd holl asesiadau mewnol y gwanwyn ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn cael eu canslo.
Roedd y rhain fod cael eu cynnal rhwng 22 Chwefror a 23 Ebrill.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Swyddog Gweithredol Cymwysterau Cymru: "Yn dilyn y penderfyniad y bydd y mwyafrif o ddisgyblion mewn ysgolion a cholegau yn parhau i ddysgu o bell, ni fydd y ffenestr asesu fewnol gwanwyn wedi'i chynllunio yn digwydd ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch a bydd trefniadau diwygiedig, gan addasu'r cynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol, yn cael eu gwneud.
"Rydyn ni'n gwybod bod angen eglurder ar ddysgwyr ynghylch sut y cânt eu hasesu a bydd eglurder ynghylch trefniadau diwygiedig yn fuan."
Ymateb gwrthbleidiau
Mae'r cyhoeddiad yn synhwyrol ond siomedig medd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n dweud bod hwn yn "ddiwrnod llwm arall i addysg yng Nghymru".
Mae Suzy Davies yn dadlau mai gweithgaredd tu hwnt i'r ysgol sy'n gorfodi'r ysgolion i gau a bod angen i Aelodau o'r Senedd gael "manylion llawn y dystiolaeth o hynny a'r camau hyd yma i geisio atal hynny, cyn gwneud cyhoeddiadau i'r cyfryngau".
Galwodd am gadarnhau pa mor sylweddol mae angen i'r gostyngiad yn nifer achosion fod cyn ailagor ysgolion, ac am gael gweld cynlluniau yn fuan i helpu disgyblion ddal i fyny gyda'u haddysg.
Mae hefyd yn gofyn a yw canslo asesiadau mewnol "yn gyfaddefiad fod dysgu ar-lein ddim yn ddigon dibynadwy a chyson i ddarparu digon o addysg safonol".
Ychwanegodd bod hi'n "anodd i dderbyn fod y llywodraeth a'r awdurdodau lleol dal ddim yn gallu darparu offer" i bob disgybl allu dysgu ar-lein.
Mae llefarydd addysg Plaid Cymru hefyd yn pwyso am ganolbwyntio ar gefnogi disgyblion sy'n diodde'r diffyg adnoddau ar-lein mwyaf.
Hefyd, medd Sian Gwenllian, mae angen "newid i Raddau Asesu Canolfannau yn syth" gan fod hi'n "fwy realistig ac yn decach i bawb anghofio am asesiadau allanol a mewnol yn gyfan gwbl".
Dywedodd: "Hyd yn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i asesiadau mewnol y gwanwyn yn unig, ond mae angen penderfyniad buan yn achos yr haf hefyd i ganiatáu amser i baratoi.
"Rhaid osgoi ffiasgo a thro pedol y llynedd ar bob cyfri."
"Mae angen i Lywodraeth Cymru gynllunio rŵan i ailagor ysgolion yn raddol ac yn ddiogel, gan osod mesurau diogelwch, a gosod cynlluniau rhaglen frechu i staff ysgol.
"Dylid hefyd gyhoeddi Cynllun Adfer Addysg sy'n amlinellu sut mae mynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig ar addysg a lles disgyblion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2021