Y pandemig a'r pennaeth sy'n gyfrifol am addysg 5,000 o blant

  • Cyhoeddwyd
Trystan Williams gyda'i wraig RhianFfynhonnell y llun, Trystan Williams
Disgrifiad o’r llun,

"Gyda bron i 5,000 o blant, oedd yn rhaid i ni fynd allan i fwydo dros 800 o deuluoedd yn ddyddiol," meddai Trystan Williams, yma gyda'i wraig Rhian

I benaethiaid ac athrawon ysgol, mae'r cyfnodau clo dros y deg mis diwethaf wedi cynnig nifer o heriau, newid ffyrdd o weithio a cheisio addasu gwersi i ddysgu ar-lein.

Mae trefniadau addysg yn wahanol yng Nghymru a Lloegr gan ei fod yn faes sydd wedi ei ddatganoli ond mae Cymro o Fangor wedi bod yn sôn am yr her o fod yng ngofal addysg miloedd o ddisgyblion yn rhai o ardaloedd mwyaf heriol dinas Bryste yn ne Lloegr.

Mae Trystan Williams yn bennaeth ar glwstwr o chwe ysgol gynradd ac un ysgol addysg arbennig sy'n rhan o Academi Venturers yn y ddinas.

Gyda chyfrifoldeb am dros 5,000 o ddisgyblion ac 800 o staff mae colli aelodau staff i'r pandemig, gofalu am addysg a lles plant bregus a'u teuluoedd a sicrhau bod pecynnau bwyd yn eu cyrraedd yn parhau i fod yn her fawr, meddai.

"Mis Mawrth dwytha, y sialens fwya' oedd deall sut oedd y feirws yma yn symud drwy'r gymuned," meddai Trystan Williams sy'n dad i ddau o blant, wrth sgwrsio gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio ar Radio Cymru.

"Yn anffodus yn y dair wythnos gyntaf o'r locdown cyntaf fe gollon ni chwech person oedd yn gweithio yn y Trust. Pobl oedd yn gweithio gyda ni yn glanhau ac yn y gegin. Oedd hynna yn dorcalonnus," meddai.

Bwydo 800 o deuluoedd

Gan bod nifer o'r ysgolion o dan ofal Trystan Williams mewn ardaloedd difreintiedig ym Mryste, roedd hynny'n cyflwyno her ychwanegol i'r staff yn ystod y cyfnod clo cyntaf, wrth iddyn nhw geisio sicrhau bod y teuluoedd yn derbyn pecynnau bwyd i'w cynnal tra bod yr ysgolion ar gau.

"Gyda bron i 5,000 o blant, oedd yn rhaid i ni fynd allan i fwydo dros 800 o deuluoedd yn ddyddiol. Am y tair wythnos cyntaf roedd y staff yn teithio 250 milltir pob dydd yn mynd â phacedi bwyd allan i'r teuluoedd mwyaf bregus sydd gyda ni.

Roedd ein staff ni yn cael eu herio gan bobl oedd yn ceisio gwerthu cyffuriau.
Trystan Williams

"Mae rhai ardaloedd ym Mryste, mae'r heddlu hyd yn oed yn cael trafferth symud o gwmpas heb gael eu herio, ac oedd ein staff ni yn gorfod mynd â phacedi bwyd i fyny 17 llawr [mewn blociau o fflatiau] ac yn cael eu herio gan bobl oedd yn ceisio gwerthu cyffuriau ac ati.

"Roedd yn her ofnadwy.

"Roedd rhaid i ni newid yr amseroedd oeddan ni'n mynd â'r pacedi bwyd i'r llefydd yma, gan bod y rhai oedd yn delio cyffuriau yn gwybod yn union pryd oeddan ni'n cyrraedd. Dydy rhywun ddim yn gallu paratoi at bethau felly.

"Dydy straeon fel yna ddim bob tro yn dod allan yn y wasg."

'Wedi paratoi'

A ninnau mewn trydydd cyfnod clo, mae'r ysgolion yn gwybod yn well beth i'w ddisgwyl, a'r gwaith paratoi wedi ei wneud.

"Fe wnaethon ni roi lot fawr o waith i mewn rhwng y Pasg a'r haf.

"Roeddan ni'n gwybod bod rhaid paratoi at fisoedd y gaeaf, fe wnaeth pob athro ac athrawes, a phawb sy'n gweithio yn yr ysgolion gael eu dysgu sut i ddysgu plant trwy eu cyfrifiaduron.

Ffynhonnell y llun, Trystan Williams
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n defnyddio fy nghlustiau lot mwy na ngheg ar hyn o bryd," meddai Trystan Williams

"'Dan ni'n ffodus iawn, mae ganddon ni noddwyr - y Brifysgol ym Mryste - a hefyd ambell i filiwnydd sy'n cefnogi'n hysgolion ni, a 'dan ni wedi bod yn ffodus iawn i fedru rhoi cyfrifiadur i lot fawr o'n plant ni," meddai.

Ond mae hynny yn ei hun wedi bod yn sialens i'w dosbarthu i'r teuluoedd a'u dysgu sut i'w defnyddio.

"Rhwng mis Medi a'r Nadolig fe wnaethon ni ddechrau gweithio gyda'n plant ni, o bedair oed i fyny, a phlant ag anghenion arbennig dwys, a'u cael nhw i ddechrau defnyddio'r cyfrifiadur.

Ar hyn o bryd mae tua hanner y plant i mewn ym mhob un o'n hysgolion
Trystan Williams

"Efallai roedd yr athrawon mewn un rhan o'r ysgol yn dysgu'r wers a bod y plant yn y dosbarth gyda chyfrifiadur mewn dosbarth arall, ac felly mae'r trawsnewid wedi bod yn llai o broblem rŵan [yn ystod y clo yma] oherwydd y paratoi dwys dan ni wedi rhoi mewn lle.

"Wythnos diwetha roeddan ni'n cael adroddiadau yn ôl gan rieni yn dweud fod pethau'n mynd yn dda, ond ar hyn o bryd mae tua hanner y plant i mewn yn bob un o'n hysgolion ni felly mae'n amser caled iawn ond mae'r holl baratoi dwys yn dechrau dangos ei ffordd bellach."

Ar gyfer y cyfnod clo presennol hefyd mae talebion yn cael eu dosbarthu i'r teuluoedd rheiny oedd yn cael bagiau bwyd yn ystod y clo cyntaf.

Dysgu gweithio'n wahanol

"Dwi 'di gorfod dysgu sgiliau newydd. Dwi ar hyn o bryd yn gweithio o adra hanner yr amser ac yn mynd i mewn i'r ysgol arbennig yr hanner arall," meddai Trystan.

"Dwi ddim yn teithio rhwng yr ysgolion oherwydd mae'r risg yn rhy uchel i hynna, felly mae'r gwaith ar Teams neu Zoom, ond un peth sydd yn holl bwysig ydy ein bod yn cadw cysylltiad agos efo'r plant a'r rhieni a'r bobl dwi'n gweithio efo.

"Bron yn ddyddiol rydan ni'n cael fforwm lle mae rhieni, plant a staff yn medru rhannu sut maen nhw'n teimlo. Mae hynny yn gallu rhwystro anxieties i godi yn uwch ac yn uwch.

"Dwi'n defnyddio fy nghlustiau lot mwy na ngheg ar hyn o bryd - yn clywed a gwrando ar sut mae pobl eisio help a gweithio gyda phobl i wneud pawb mor saff â phosib a bod pobl yn teimlo mor gyfforddus a gallan nhw o fewn ein hysgolion ni."

Teithio nôl i Gymru

Ar ochr bersonol, mae Trystan Williams yn esbonio pa mor anodd ydy peidio gallu teithio yn ôl i ogledd Cymru yn ystod y pandemig, i ymweld â'i chwaer sydd mewn cartref gofal yn Llanberis.

Ffynhonnell y llun, Trystan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Williams, ei wraig Rhian a'i feibion Morgan a Harri Ifan, gyda'i ddiweddar rieni

"Roedd fy chwaer yn arfer mynd i ysgol arbennig iawn, Pendalar yng Nghaernarfon. Dydy hi ddim efo llafar o gwbwl ond mae mewn lle arbennig iawn, mae mewn lle saff ac yn cael gofal anhygoel, felly diolch i bawb sydd yn gweithio yn y maes social care.

"Dydw i ddim wedi gallu ei gweld ers misoedd bellach, ac mae hynny wedi bod yn anodd iawn.

"Dwi'n cadw mewn cysylltiad fideo efo hi o leia' ddwywaith yr wythnos a dwi'n canu iddi, a mae hi'n ysgwyd ei dwylo. Gobeithio pan ddaw hi'n amser Pasg a'r haf y gallaf deithio i'r gogledd eto."

Bu farw eu mam fis Ionawr 2020 ac maen nhw wedi colli eu tad hefyd, cyn brifathro Ysgol Treborth, Bangor, Wil Parry Williams.

Dilynodd Trystan yn ôl troed ei dad i fyd addysg gan ddechrau dysgu tîm rygbi dan 21 oed Cymru ar ôl gadael y coleg cyn cael swydd mewn ysgol i blant gydag anghenion arbennig yng Nghasgwent.

Wedi dysgu mewn ysgol yn Wiltshire am 12 mlynedd, mae yn ei swydd bresennol ers tair blynedd ond mae'n dyheu am ddychwelyd i Gymru i fyw a gweithio, meddai.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig