Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-2 Norwich

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Caerdydd yn dangos eu cefngoaeth i Sol Bamba

Bu'n rhaid i Norwich frwydo i'r diwedd yn erbyn 10 dyn Caerdydd er mwyn cryfhau eu lle ar frig y Bencampwriaeth.

Aeth yr ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen cyn yr egwyl, peniad Grant Hanley yn gyntaf, ac yna Todd Cantwell.

Gallai Norwich wedi bod ymhellach ar y blaen, gymaint oedd eu goruchafiaeth yn yr hanner cyntaf.

Ond wedi'r egwyl fe wnaeth ergyd Joe Ralls godi gobeithion Caerdydd - dim ond i'r chwaraewr ganol cae Marlon Pack gael ei anfon o'r cae ar ôl ail gerdyn melyn.

Lawr i ddeg dyn, a gyda 20 munud yn weddill fe wnaeth Caerdydd bwyso am gôl gyfartal ond yn ofer.

Mae Caerdydd yn parhau yn y 15fed safle wedi'r golled.

Cyn dechrau'r chwarae fe wnaeth chwaraewyr Caerdydd ddangos eu cefnogaeth i'r amddiffynnwr Sol Bamba, ar ôl y cyhoeddiad yn gynharach yr wythnos ei fod wedi cael diagnosis o ganser.

Wrth iddynt gynhesu cyn dechrau'r gêm fe wnaethant ddangos eu crysau t gydag enw Bamba a'i rif 22 ar y cefn, a'r neges ar flaen y crys yn dweud "Rydym yn brwydro gyda ti."

Pynciau cysylltiedig