Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 Dover

  • Cyhoeddwyd
National LeagueFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi codi i'r wythfed safle ac yn gyfartal â'r safleoedd ailgyfle yn y gynghrair Cenedlaethol ar ôl curo Dover ar y Cae Ras.

Reece Hall-Johnson roddodd Wrecsam ar y blaen, yn dilyn rhediad da.

Daeth Dover yn gyfartal cyn yr egwyl, Ahkeem Rose yn sgorio gyda'i ben

Peniad arall, Fiacre Kelleher roddodd y tîm cartref ar y blaen gyda chic gosb Luke Young yn sicrhau'r tri phwynt.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Wrecsam yn y flwyddyn newydd.

Pynciau cysylltiedig