A B C ac i ffwrdd â ni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Os ydych chi wedi'ch llwyr syrffedu ar hyn o bryd, a phwy sy' ddim, dyma gêm barlwr i chi.

Medrwch chi feddwl am enw ar blaid a fyddai'n dod cyn "Abolish the Assembly" yn nhrefn y wyddor? "Aberthwch San Steffan" ac "Abandon the UK" yw fy nghynigion i ond wrth gwrs fe fyddai'r "Aardvark League" yn drech na phawb!

Nid cwestiwn haniaethol yw hwn. Does dim dwywaith bod "Abolish the Assembly" yn elwa o fod ar frig y papur pleidleisio.

Yn ôl ymchwil yn yr Unol Daleithiau mae hyd at 10% o bleidleiswyr yn bwrw pleidlais i'r enw cyntaf ar y papur pleidleisio. Dyw'r ffigwr ddim yn debygol o fod mor uchel yng Nghymru gan taw dim ond un neu ddau o ddewisiadau sy'n ein hwynebu ar ddiwrnod etholiad tra bod Americanwyr yn wynebu dwsinau ohonyn nhw ac yn y gornestau lleiaf pwysig y mae'r ffenomen yn fwyaf amlwg.

Ond hyd yn oed os ydy bod yn gyntaf ond yn ychwanegu un neu ddau y cant at y bleidlais gallai hynny fod yn allweddol yn yr ornest ranbarthol eleni, yn enwedig o gofio'r bwffe o bleidiau bach asgell dde fydd yn cystadlu am sylw.

Mae'n debyg taw'r peryg o golli seddi i Abolish sy'n rannol gyfrifol am y nodyn fwy devo-sgeptig y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi taro'n ddiweddar. Mae gan yr aelodau cyffredin rhan yn y peth hefyd. Mae ffawd David Melding a Suzy Davies yn awgrym o'r hyn y gall datganolwyr pybyr ei ddisgwyl yn y dyfodol.

Nawr mae'n bosib y bydd nodyn sgeptig o gymorth i'r Ceidwadwyr wrth wylio'u cefnau yn y bleidlais ranbarthau. Y broblem yw y gallasai weithio i'r gwrthwyneb yn yr etholaethau lle mae gan yr etholwyr llai o ddewis.

Mae profiad Llafur y llynedd yn brawf o'r hyn sy'n gallu digwydd os ydy plaid fawr yn crwydro'n rhy bell o'r brif lif wleidyddol ac mae ystyried gwanhau neu ddiddymu Senedd Cymru yn grognant fechan iawn i drochi ynddi.

Mae hynny'n dod a ni at wirionedd sylfaenol ynghylch etholiadau Senedd Cymru. Nes i rywun dorri crib Llafur yn yr etholaethau fe fydd y blaid honno yn parhau fel y blaid fwyaf yn y Senedd.

Cwffio dros sgrapiau y mae'r pleidiau eraill os ydyn nhw'n dewis canolbwyntio'n ormodol ar gipio neu gadw seddi rhestr. Mae'n ymddangos taw dyna yw dewis y Ceidwadwyr yn 2021.