'Cosb ariannol' am gadw plant adref yn ystod cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Modelau Coronafeirws wedi eu gwneud gyda chlai gan blantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall rhai rhieni sy'n dewis cadw eu plant adref orfod talu i gadw eu lle mewn meithrinfa

Mae rheini plant ifanc yn poeni y byddant ar eu colled yn ariannol - a hynny am ddilyn rheolau'r cyfnod clo i aros adref.

Mae rhai'n ofni na fyddant yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan y llywodraeth tuag at ofal plant os ydynt yn dewis eu cadw nhw adref.

Mae rhai hefyd yn bryderus y gallai plant golli eu lle mewn meithrinfa, os nad ydy rhieni'n talu o'u poced eu hunain.

Mae gan feithrinfeydd a darparwyr gofal plant eraill hawl i aros ar agor o dan reolau'r cyfnod clo.

Dywed Llywodraeth Cymru y byddant yn parhau i ariannu gofal plant os yw plentyn yn absennol oherwydd rhesymau "dilys" yn ymwneud â Covid-19.

'Cwbl groes i'r neges aros adref'

Ond dywedodd un fam wrth BBC Cymru na ddylai rhieni gael eu "cosbi'n ariannol" am gadw plant ifanc adref yn ystod y cyfnod clo.

Penderfynodd Gemma, athrawes 36 oed, gadw ei phlentyn adref dros dro o'i feithrinfa, tra bod gweddill y teulu gartref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'n bosib cadw pellter cymdeithasol mewn sefydliadau gofal plant ifanc

Pan ddywedodd wrth y feithrinfa, dywedwyd wrthi bod cymorth ariannol drwy gynllun Cynnig Gofal Plant Cymru wedi cael ei dynnu'n ôl i blant oedd ddim wedi dychwelyd ar ôl y Nadolig.

Yn ôl y fam, roedd hyn gadael dau opsiwn iddi:

"Un ai anfon fy mab i'r feithrinfa yn ystod cyfnod clo cenedlaethol - sydd yn gwbl groes i'r neges glir i aros adref, i osgoi teithiau sydd ddim yn angenrheidiol, ac i osgoi cymysgu gydag eraill - er mwyn parhau i dderbyn yr arian y mae'n gymwys i'w dderbyn.

"Neu golli'r arian yn gyfan gwbl a thalu'r pris llawn... er mwyn cadw ei le tan y bydd yn dychwelyd i'r feithrinfa."

Dywedodd nad oedd hi am gymryd y risg o golli'r trefniant gofal arferol sydd gan ei mab, am y byddai hynny'n tarfu ymhellach arno, ac yn effeithio ar ei gallu hithau i weithio.

"Mae'n beth digon rhesymol i rieni ddisgwyl cael dewis cadw eu plant adref dros dro yn ystod y clo, heb gael eu cosbi'n ariannol am wneud hynny."

Beth yw Cynnig Gofal Plant Cymru?

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn caniatáu i rieni sy'n gweithio hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal i blant rhwng tair a phedair oed am hyd at 48 wythnos.

Mae rhieni'n hawlio'r arian drwy eu hawdurdodau lleol, sydd yn eu tro yn talu'r ffioedd drwy gynllun y llywodraeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Jane May, o gwmni Cupcakes Childminding yn Sir Y Fflint, y byddai gofalwyr yn gorfod terfynu cytundeb plentyn os nad oeddynt yn cael arian ar ei gyfer.

Roedd hi'n gofalu am blant gweithwyr allweddol gan fwyaf, meddai, a dywedodd fod gofalwyr eraill wedi gorfod cau yn ystod y pandemig.

"Rydym yn ceisio cadw'n trwyn uwchben y dŵr fel ein bod yn gallu cynnig gofal pan mae teuluoedd yn barod i anfon eu plant yma unwaith eto," meddai.

"Nid yw'n hawdd newid gofal plant. Mae'n rhaid ymddiried yn rhywun i edrych ar ôl plant ifanc, ac mae'r plentyn yn cael ei ddadwreiddio."

'Talu os oes rheswm dilys'

Dywedodd Purnima Tanuku, Prif Weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, fod y sector wedi dod o dan bwysau difrifol yng Nghymru yn ystod y pandemig.

"Rydym yn dal i annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod meithrinfeydd a mannau gofal cynnar yn cael cefnogaeth fel eu bod yn gallu parhau i gynnig llefydd i blant yn y dyfodol, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu mynd yno nawr," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y gallai awdurdodau lleol barhau i dalu'r ffioedd os oedd 'na "reswm Covid-19 dilys" dros absenoldeb plentyn - yn cynnwys pan oedd aelod o'r cartref yn hunan ynysu.

"Os yw'r absenoldeb yn parhau tu hwnt i gyfnod o bedair wythnos, sy'n cyfateb i'r cyfnod o rybudd mae cwsmeriaid preifat yn gorfod ei roi, gall yr awdurdod lleol ddewis ymestyn y cymorth ariannol am gyfnod byr, ond bydd y penderfyniad hwnnw'n dibynnu ar amgylchiadau penodol y teulu," meddai.