Edrych ar ôl ein imiwnedd yn y gaeaf
- Cyhoeddwyd
Yn ystod misoedd oer y gaeaf, a chyfnod clo arall, mae Elin Prydderch sy'n Faethydd Naturopathig ac Adweithydd yng Nghaerdydd, yn egluro pwysigrwydd hunan ofal a sut i edrych ar ôl y coluddyn a'r corff, ac i gael imiwnedd da:
Iechyd y coluddyn
Mae 70% o'ch imiwnedd yn eich coluddyn [intestine], felly mae'n bwysig iawn fod y system dreulio yma yn gweithio'n dda.
Ynddo, mae ganddoch driliynnau o facteria sydd yn cadw'r corff yn iach, ac yn cadw'r bacteria drwg dan reolaeth. Ond os ydy'r cydbwysedd yma yn mynd y ffordd arall - rhan amlaf oherwydd deiet llawn bwydydd wedi eu prosesu, gor-ddefnydd o antibiotics, a diffyg llysiau, ffrwythau a charbohydradau cyflawn - mae'n gallu cyfrannu at leihau eich imiwnedd.
Mae cynnwys bwydydd sydd yn bwydo'r bacteria da yn helpu. Gelwir rhain yn prebiotics, bwydydd fel Kefir, Kombucha, Miso, Sauerkraut, a Kimchi.
Straen
Mae pryder ac ofn yn emosiynau naturiol yn ein cyrff, maen nhw yna i'n diogelu rhag bygythiad. Ond yn bur aml bydd yr ofnau yna, sydd yn cael eu creu yn yr ymennydd, ddim yn ffaith a fyddan nhw ddim yn dod yn wir. Beth sy'n digwydd ydy fod yr ymennydd yn creu stori o beth all ddigwydd er mwyn ceisio eich gwarchod, ond rhan amlaf dyna'r oll ydynt, sef stori mae'r ymennydd yn ei greu.
Mae myfyrio, cerdded allan mewn natur, a byw yn y presennol i gyd yn dechnegau syml ond effeithiol iawn i dawelu'r meddwl, dod â lefelau stress i lawr er mwyn i chi gael teimlo mewn rheolaeth unwaith eto.
Cwsg
Mae cwsg yn hynod o bwysig. Mae ein imiwnedd yn llai effeithiol o ganlyniad i ddiffyg cwsg. Mae y chwarren pineal (pineal gland) yn yr ymennydd yn cynhyrchu melatonin sydd yn rheoli patrymau cwsg. Mae angen ystafell dywyll i weithio ar ei orau, felly mae'n hanfodol cysgu mewn ystafell dywyll.
Mae lleihau caffein neu ei dorri allan yn llwyr yn helpu. Os oes yn rhaid i chi gael coffi, yna cymerwch peth cyntaf yn y bore a dim ond un cwpanaid y dydd. Mae'n rhyddhau'r hormonau cortisol sydd yn gyfrifol am stress, ac yn effeithio ar gwsg.
Mae te camomeil yn opsiwn gwell cyn gwely, myfyrio cyn cwsg, darllen, a pheidio ag edrych ar eich ffôn.
Siwgr
Yn syth ar ôl i chi fwyta bwydydd sydd yn uchel mewn siwgr - losin, diodydd pefriog, siwgr gwyn - mae effeithiolrwydd eich imiwnedd yn disgyn 40%, ac yn aros felly am oriau wedyn.
Y newyddion da ydy fod bwydydd fel reis brown, pasta brown, quinoa, blawd cyflawn, llysiau, ffrwythau ac yn y blaen ddim yn gwneud hyn. Mae dewis carbohydrad cyflawn yn arafu lefel siwgr yn y gwaed, ac felly yn rhoi egni i chi ar raddfa hir dymor. Crefu siocled? Ewch am 70% cocoa, mae'n cynnwys magnesiwm sydd yn dda i'r imiwnedd.
Llysiau
Cynyddwch yr amrywiaeth a'r nifer yn eich diet. Coginiwch gyda lliwiau'r enfys i greu cawl, broth, caserol, salad. Hefyd taflwch fewn perlysiau fel oregano, rhosmari, teim, tyrmerig, sinsir, a garlleg. Mae rhain yn dda i gryfhau ein imiwnedd.
Dyma'r ffordd orau o gefnogi'r imiwnedd; diet gyda amrywiaeth eang o lysiau ffres fydd yn cryfhau y corff cyfan.
Aeron Ysgaw (Elderberry)
Mae hwn yn hudol. Mae'n gallu arafu'r raddfa y mae feirws yn lledaenu yn y corff, gyda'r gallu i leihau llid. Mae'n cael ei gynnwys mewn llawer o de perlysiau. Mae modd archebu y surop, ond mae'n werth mynd am y ffurf mwyaf pur, a'r drutaf, er mwyn cael yr ansawdd gorau.
Os ydych yn feichiog, neu'n cymryd meddyginiaeth, gofynnwch wrth eich meddyg yn gyntaf cyn cymryd unrhyw berlysiau neu blanhigion meddyginiaethol. Er eu bod yn naturiol maent hefyd yn bwerus ac yn gallu creu niwed os nad ydynt yn cael eu cymryd yn y ffordd briodol.
Alcohol
Mae hwn yn gwanhau eich imiwnedd. Byddwch yn wyliadwrus faint ydych yn ei yfed, ac os ydych yn mynnu cael gwydraid yna cerwch am y rhai sydd yn isel mewn siwgr, sef gwin coch a jin, a chyfyngu i un, neu ddau wydraid yn unig.
Ni fydd alcohol yn helpu eich lefelau stress, ac ni fydd yn eich cryfhau yn y tymor hir. Bydd yfed yn ddyddiol yn gwanhau gallu eich imiwnedd i ymwrthod firysau.
Mae yfed dwy litr o ddŵr yn ddyddiol yn cryfhau eich imiwnedd. Dŵr plaen yn unig; nid yw dŵr sydd mewn te, coffi neu ddiod pop yn cyfrif. Yn hytrach mae rhain yn lleihau dŵr yn y corff.
Fitamin D, Zinc, Magnesiwm, a Fitamin C
Mae'r mwynau a'r fitaminau yma yn rhai sydd yn cynyddu effeithiolrwydd ein imiwnedd.
Fitamin C - mae'n wrthocsidiol (antioxidant), ac yn helpu i gryfhau B-lymphocytes, celloedd gwyn y system imiwnedd. Bwytewch orennau, kiwi ac aeron.
Fitamin D - mae'n cryfhau eich imiwnedd. Mae'n hynod o bwysig i gerdded tu allan cymaint â sy'n bosib gan ein bod yn cynhyrchu Fitamin D wrth fod tu allan yn yr haul. Er y cymylau, mae pelydrau'r haul yn dal i dreiddio trwyddo. Bwytewch amrywiaeth eang o bysgod.
Zinc - mae'n effeithio ar gymysgedd o agweddau yn y system imiwnedd. Bwytewch wyau, cig oen, siocled tywyll, hadau a chnau.
Magnesiwm - mae'n gyfrifol am dros 300 o adweithiau cemegol yn y corff sydd yn cynnwys cefnogi'r imiwnedd. Bwytewch hadau pwmpen, cnau cashew, cnau almwnd, a spigoglys.
Hefyd o ddiddordeb: