Symud pobl o'u cartrefi wrth i lifogydd daro Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llifogydd yn taro ardal Parc Goshen yn Sgiwen

Mae tua 80 o bobl wedi cael eu cludo o'u cartrefi yn dilyn llifogydd yn Sgiwen, Castell-nedd Port Talbot ddydd Iau.

Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i lifogydd yn ardal Parc Goshen gydag awgrym fod y broblem yn ymwneud â safleoedd cloddio glo lleol.

Dywedodd arweinydd y cyngor sir, Rob Jones, fod "arwyddion cynnar yn awgrymu cyswllt gyda safleoedd cloddio - ond bod llif y dŵr yn ei gwneud yn anodd i wneud asesiad llawn o'r sefyllfa".

Mae'r gwasanaeth tân yn defnyddio pympiau arbenigol i waredu'r dŵr, ynghyd â chychod i gludo pobl.

Dywedodd Roger Thomas, dirprwy brif swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fod nifer o bobl fregus ymhlith y rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Disgrifiad,

Dywedodd un sy'n byw yn lleol ei bod "byth wedi gweld" llifogydd tebyg o'r blaen

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Rhys Williams

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Rhys Williams

Daw'r trafferthion yn dilyn glaw trwm Storm Christoph wnaeth arwain hefyd at symud pobl o'u cartrefi ym Mangor Is-Coed ger Wrecsam, ac yn Rhuthun, Sir Ddinbych dros nos.

Yn Wrecsam, bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys ddiogelu ffatri sy'n cynhyrchu brechlyn Covid-19 ar stad ddiwydiannol y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ein gohebydd Rhys Williams bod swyddogion tân wedi bod yn ceisio annog un dyn i adael ei gartref ar Heol Dynevor

Cafodd hyd at 30 o bobl eu symud o'u cartrefi ym Mangor is-Coed, a dywedodd Cyngor Wrecsam fod rhai o'r pentrefwyr wedi cael lloches yn neuadd yr eglwys leol am gyfnod byr.

Dywedodd y arweinydd y cyngor Mark Pritchard wrth BBC Cymru: "Roedd digwyddiad ar Stâd Ddiwydiannol Wrecsam... mae brechlyn Rhydychen yn cael ei gynhyrchu yno a'r warws ble mae'n cael ei gadw.

"Wrth gwrs dwi'n methu dweud ble yn union mae hwnna, ond roedd yn rhaid i ni weithio mewn partneriaeth i sicrhau nad ydyn ni'n colli'r brechlynnau yn y llifogydd.

"Dwi 'di bod fyny trwy'r nos... mae'n amser anodd iawn i ni."

Ffynhonnell y llun, Liahll Bruce
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont troed rhwng Trefnant a Thremeirchion yn Sir Ddinbych wedi diflannu yn y storm

Mae'r brechlyn yn cael ei gynhyrchu gan gwmni Wockhardt UK, ac fe ddaeth datganiad gan y cwmni fore Iau.

"Neithiwr am oddeutu 16:00 fe gafwydd peth llifogydd yn Wockhardt UK gan arwain at ddŵr yn amgylchynu rhannau o adeiladau'r safle.

"Fe gymerwyd camau rhagofal sy'n golygu na fu amharu ar y gwaith, ac ni ddaeth dŵr i mewn i adeiladau.

"Mae'r safle bellach yn ddiogel heb ddifrod llifogydd, ac mae'n gweithredu fel arfer."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith glanhau wedi dechrau yn Rhuthun yn dilyn difrod i sawl busnes a chartref yn y dref

Roedd y Cynghorydd Huw Jones, sy'n is-gadeirydd Cyngor Cymuned Bangor Is-y-Coed ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru.

Dywedodd: "Mae'r amddiffynfa'n dal ar hyn o bryd ar afon yn llifo lle mae hi fod yn y gorlifdir. Mae yna neges gan Gyfoeth Naturiol Cymru am rybudd llifogydd difrifol ac argymhelliad i adael y pentref - yn enwedig y tai sydd agosaf at yr afon.

"Ar hyn o bryd mae rhai pobl wedi symud.

"Mae'r afon yn uchel dros ben a dŵr wedi dod i lawr dros y caeau i'r pentref. Dydy'r afon eu hun ddim wedi dod i mewn i'r pentref yr adeg yma.

"Mae 'na lot o help... yr heddlu a'r dynion tan wedi bod lawr yma. Cadw'n saff a gwrando ar y negeseuon gan Gyfoeth Naturiol Cymru yw'r neges i bawb.

"Mae'r heddlu wedi bod o amgylch y tai yn dweud beth ydy'r peth gorau i wneud. Gobeithio na fydd yr afon yn gorlifo eu glannau. Mae'r glaw wedi stopio rŵan a gobeithio y bydd pethau yn gwella."

Ffynhonnell y llun, Gareth Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cartrefi a busnesau eu heffeithio ym Mangor Is-Coed hefyd

Cafodd naw adeilad yn New Broughton yr ardal Wrecsam hefyd eu gwagio.

Bu'n rhaid i rai trigolion adael eu tai yn Rhuthun hefyd.

Roedd Catrin Tudor Thomas yn un o'r rhai fuodd yn helpu yno neithiwr.

"Ro'n ni adre'n gwylio'r cyfryngau a gweld bod pobl yn poeni am eu tai felly fe aethon ni i'r buarth, ryda'n ni'n rhedeg cwmni IT Williams yn Rhuthun, a phenderfynu y bydden ni yn gallu helpu drwy fynd a thywod sych bagiau a rhawiau i waelod y dre lle'r oedd y llifogydd," meddai.

"Roedd yr afon wedi dod dros hanner y ffordd ble roedd yna fusnes, bwyty Indiaidd, hen dai bach Mill Street sy'n isel o'r ffordd ac erbyn 21:00 roedden ni yn poeni am Stryd Mwrog a Stryd y Parc bob ochr i'r afon ble roedd hi bron a gorlifo.

"Fe lwyddo'n ni i fagio 400 o fagiau tywod ar y stryd a phobl yn eu cario i'w tai rhag ofn. O be' dwi di glywed maen nhw just about wedi llwyddo i beidio cael dŵr i'r tai."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pont Llechryd wedi ei gorchuddio bron yn llwyr gan Afon Teifi

'Gwaethaf mae erioed wedi bod'

Mae cartre' Clwb Pêl droed Porthmadog hefyd wedi bod o dan ddŵr.

Roedd gwirfoddolwyr wedi bod wrthi ers misoedd yn gwella'r cyfleusterau yno.

Dywedodd Cadeirydd y clwb Phil Jones: "Mae'n ddrwg iawn yma. Dwi wedi bod yn gadeirydd ers 20 mlynedd a dwi heb weld llifogydd mor wael â hyn a phobl sy'n byw yn agor i'r Traeth yn dweud mai dyma'r gwaethaf mae wedi bod erioed.

"Doedd o ddim yn annisgwyl ac roedden ni wedi bod wrthi dau ddiwrnod ynghynt yn ceisio paratoi cymaint â phosib yn codi byrddau a chadeiriau fel eu bod nhw ddim yn cael eu difrodi.

"Ond faint o ddŵr a'r cyflymdra y daeth o yn y diwedd oedd y sioc fwyaf. Mewn dim o amser roedd o at ein boliau bron mewn mannau.

"Dydyn ni methu mynd mewn ar hyn o bryd ac rydan ni yn disgwyl tipyn o lanast."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau o dref Caerfyrddin hefyd yn diodde' llifogydd fore Iau

Rhybuddion pellach

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew dros rannau o ganolbarth a gogledd Cymru, sy'n debygol o arwain at amodau gyrru anodd dros ben wrth i eira a glaw glirio.

Mae'r rhybudd mewn grym dros Geredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd Ynys Môn, Powys a Wrecsam.

Am 22:30 ddydd Iau dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol fod dau rybudd o lifogydd difrifol wedi eu cyhoeddi, ynghyd â 13 o rybuddion llifogydd mewn grym, a 27 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd.

Mae'r ddau rybudd o lifogydd difrifol yn y gogledd-ddywrian, yn ardal Bangor Is-y-coed a rhwng Wrecsam a Whitchurch yn Sir Amwythig.

Ffyrdd ar gau

Mae dwisinau o ffyrdd wedi gorfod cau yn ystod y dydd oherwydd llifogydd, gan gynnwys:

  • A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog;

  • A487 rhwng Machynlleth a Ffwrnes Ddyfi;

  • A4042, o'r B4269 i'r A40 yn Nhefynwy;

  • Yr A55, cyffordd 33A ar y ffordd orllewinol;

  • A487 rhwng Aberteifi a Threfdraeth.

Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych mae nifer o ffyrdd bychain yn parhau ynghau yn yr ardal.

Mae dwy ysgol, Ysgol Bodfari ac Ysgol Caer Drewyn, Corwen - oedd ar agor i blant weithwyr allweddol neu blant bregus - wedi gorfod cau.

Trenau

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod y storm wedi effeithio ar wasanaethau rhwng:

  • Cyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog;

  • Amwythig i Bwllheli;

  • Cyffordd Dyfi i Aberystwyth;

  • Wrecsam Canolog i Bidston.

Pynciau cysylltiedig