Storm Christoph: Symud pobl o'u cartrefi wedi glaw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llifogydd mewn rhannau o Gymru yn dilyn Storm Christoph

Mae llifogydd wedi taro nifer o ardaloedd ar draws Cymru, gyda rhai cartrefi wedi cael eu heffeithio a nifer o ffyrdd wedi cau wrth i Storm Christoph ddod â glaw trwm.

Mae rhybudd melyn am law mewn grym gan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol, hyd at nos Fercher.

Eisoes mae Rhuthun wedi diodde' llifogydd yng nghanol y dref.

Aeth swyddogion Heddlu Gogledd Cymru i helpu rhai preswylwyr yno oedd wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi.

Dywedodd yr heddlu mewn neges ar Twitter fod "pobl nad ydyn nhw'n byw yn lleol yn gyrru i'r ardal i 'weld y llifogydd'".

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol nos Fercher, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych fod canolfannau lloches wedi cael eu hagor yn Llanelwy a Rhuthun yn dilyn glaw trwm trwy'r dydd.

Gall trigolion sydd wedi eu heffeithio ddefnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun a Chanolfan Hamdden Llanelwy medd y cyngor, ac mae'r canolfannau lloches yn ddiogel o ran Covid-19.

Rhybudd am rew

Yn y cyfamser mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau rhybudd melyn am rew ar draws y gogledd a'r canolbarth o 01:00 i 10:00 fore Iau.

Gallai rhew ffurfio'n gyflym ar rai lonydd a llwybrau ar ôl i'r glaw glirio, medden nhw.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd disgynnodd 127mm o law yng Nghapel Curig mewn 48 awr wrth i Storm Christoph daro.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol wedi cyhoeddi dros 30 rhybudd llifogydd ddydd Mercher, gyda dwsinau o rybuddion i fod yn barod am effaith y glaw.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhannau o Ruthun yn dioddef nos Fercher

Disgrifiad o’r llun,

Does dim modd gyrru i lawr y ffordd yma yn Llanrwst, ac mae'r heddlu'n rhybuddio teithwyr i gymryd gofal

Gallai'r glaw trymaf daro gogledd orllewin Cymru, ac mae'r heddlu wedi rhybuddio teithwyr dros y rhanbarth i gymryd gofal.

Rhwng 0600 fore Llun at 0600 fore Mercher cafodd lefelau uchel o law eu cofnodi mewn sawl man.

  • Capel Curig - 127.6mm

  • Y Bala, Gwynedd - 67.4mm

  • Llyn Efyrnwy, Powys - 70.6mm

  • Tredegar, Blaenau Gwent - 63mm

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Heddlu Gogledd Cymru 🌈 #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Heddlu Gogledd Cymru 🌈 #DiogeluCymru
Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A487 wedi cau ger Machynlleth wrth i Afon Dyfi orlifo

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y de bod swyddogion wedi eu galw i sawl digwyddiad dros nos, gyda dŵr yn mynd i mewn i adeiladau ym Mhontypridd, Porth yn y Rhondda, Pontycymer a Thredegar.

Mae rhai gwasanaethau trên yn y gogledd a'r canolbarth wedi eu heffeithio, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol.

Roedd nifer o ffyrdd wedi eu heffeithio, ac mae cyfyngiadau ar bontydd Hafren (M48) a Britannia (A55).

Mae mwy o wybodaeth ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Tâf wedi gorlifo yn Llanglydwen, Sir Gâr

Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Taf hefyd yn uchel ym Mhontypridd

Pynciau cysylltiedig