'Poenus' gweithio yn uned gofal dwys Ysbyty Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Gwynedd wedi cael eu rhybuddio i gadw at y rheolau wrth i'r cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19 roi'r gwasanaeth iechyd yno dan bwysau.
Cafodd 33 achos arall eu cadarnhau yn y sir ddydd Iau.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd y grŵp sy'n arwain yr ymateb i'r pandemig yn y sir ei bod hi'n "hanfodol iddyn nhw gydymffurfio yn llwyr â rheolau Llywodraeth Cymru er mwyn atal y twf presennol mewn achosion".
Yn ôl Dafydd Williams, cadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Gwynedd, mae "bywydau yn y fantol".
Gyda'r uned gofal dwys yn Ysbyty Gwynedd wedi prysuro'n arw, dywedodd nyrs sy'n gweithio yno bod gweithio ar y ward yn brofiad "poenus" ar hyn o bryd.
Mae Sophie Burgess wedi bod yn gweithio yn yr uned ers diwedd Tachwedd ar ôl gwirfoddoli i symud yno o'r adran lawfeddygol.
"Mae o'n hollol wahanol i be' dwi wedi arfer 'efo fo," meddai.
"Ar uned gofal dwys da' chi'n edrych ar ôl un neu ddau o gleifion achos bo' nhw ar beiriannau anadlu, achos bod gan rai ohonyn nhw multi organ failure.
"Ac yn amlwg, mae yna rai 'efo Covid ac yn ddifrifol wael.
"Mae'n ofnadwy - gwisgo'r kit yna am 12 awr. Dwi'n 'neud tri diwrnod yn syth ar ôl ei gilydd fel arfer. Da chi'n dod allan 'efo sores ar eich wyneb.
"Dio ddim yn beth braf i'w wisgo. Mae'n boenus ac mae o'n 'neud fy ngwaith i 100% yn anoddach."
'Mwy o gleifion rŵan'
Ers y Nadolig mae hi wedi prysuro'n fawr yno. Y penwythnos diwethaf, roedd unedau gofal dwys ysbytai'r gogledd ar eu prysuraf ers dechrau'r pandemig 'nôl ym mis Mawrth.
"Da ni yn bendant 'efo mwy o gleifion Covid yn dod i mewn rŵan sydd angen gofal un i un," meddai Sophie.
"Be' oeddan ni'n gael yn y misoedd diwethaf oedd un neu ddau yn dod i mewn angen gofal ar yr uned ddwys oherwydd Covid - ond rŵan mae 'na fwy na hynny."
Mae'r rheolau yn yr ysbytai yn llym wrth reswm, a hynny'n golygu nad oes modd i deuluoedd ymweld â'r uned ar hyn o bryd, ond mae yna eithriadau.
"Os ydy'r claf yn ddifrifol wael, neu os ydan ni'n meddwl bo' nhw ddim yn mynd i'w gneud hi, mae teuluoedd yn cael dod i mewn," meddai Sophie.
"Mae'n anodd iddyn nhw - mae'n anodd i bawb dwi'n meddwl.
"Mae'n drist i ni fel staff i weld claf yna ar eu pen eu hunain, yn methu gweld eu teuluoedd.
"'Da ni'n 'nabod nhw - da ni'n adeiladu perthynas 'efo nhw - ni ydy'r unig bobl sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, achos 'dyn nhw ddim yn gweld neb o'u teuluoedd.
"Felly, 'da ni yn adeiladu'r rapport yna 'efo nhw, sy'n neis, ond eto - os oes rhywbeth yn digwydd - dydy o ddim yn beth braf."
'Ysbytai yn gwegian'
Mae'r cyfanswm yr achosion yng Ngwynedd dros y saith diwrnod diwethaf yn 281, gyda'r straen newydd o'r haint yn cyfrif am hyd at 70% o'r holl achosion newydd.
Gan ddweud fod "gwasanaethau ysbytai yn gwegian" roedd yna rybudd arall yr wythnos hon gan Gyngor Gwynedd yn erfyn ar bobl leol i gadw at y rheolau.
Maen nhw'n gweld aelwydydd cyfan yn cael eu heintio, medden nhw, ac yn rhybuddio fod pobl yn fwy tebygol o ddal y feirws gan bobl maen nhw'n eu hadnabod.
Dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ymwelwyr o Loegr oedd yn hawlio'r penawdau - yn torri'r rheolau wrth deithio i Eryri.
Fe wnaeth hynny siomi Sophie yn arw.
"Dio ddim yn deimlad braf achos dwi, er enghraifft, wedi symud allan o gartref fy nheulu ers mis Mawrth achos y pandemig yma," meddai.
"Felly dwi ddim di gweld fy nheulu gymaint ag arfer.
"Dwi'n deall fod iechyd meddwl pobl yn dioddef, ond i weld fod rhai pobl yn mynd allan a rhai yn trafeilio yma o Loegr i gerdded - dio ddim yn beth braf.
"Gwaethygu wneith pethau os ydy pobl yn mynd yn erbyn y gyfraith."
'Eithaf positif'
Er hynny, mae Sophie yn bell o anobeithio.
Wrth gerdded coridorau Ysbyty Gwynedd mae'r lle yn frith o bosteri, a negeseuon llawn gobaith gan blant yr ardal - "Daw Eto Haul ar Fryn", "Diolch i'r NHS".
Mae'n codi calon staff yr uned - felly hefyd yr ymdrech fawr sydd ar droed i frechu pawb rhag yr haint.
"Da ni i gyd yn eitha' positif am y peth - dwi'n gobeithio wneith o fyd o wahaniaeth," meddai.
"Dwi'n cael un fi wythnos nesaf, ond dwi'n gwybod fod mwyafrif y staff yma wedi'i gael o'n barod - yr un cyntaf beth bynnag.
"Mae nifer o gleifion a nifer o bobl yn y gymuned wedi'i dderbyn o hefyd. Dwi'n gobeithio gawn ni ryw fath o normalrwydd yn y misoedd nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd24 Awst 2020
- Cyhoeddwyd24 Awst 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020