Chwilio am berthnasau dyn a fu farw o'r ffliw Sbaenaidd
- Cyhoeddwyd
Mae yna apêl i geisio canfod teulu morwr o Seland Newydd a gafodd ei gladdu yng ngogledd Cymru yn 1918 ar ôl cael ei heintio â'r ffliw Sbaenaidd.
Roedd yr Is-gapten Philip Gannaway newydd briodi â'i wraig Muriel pan ymunodd â'r lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ymunodd â'r Llynges Frenhinol Wrth Gefn Wirfoddol, gan wasanaethu yn Afon Menai cyn marw yn 32 oed.
Mae ei fedd ar Ynys Tysilio, ar bwys y Fenai, ar gyrion Porthaethwy.
Dywed yr hanesydd lleol, Bridget Geoghegan ei bod wedi derbyn ymatebion i stori am yr Is-gapten Gannaway ar wefan newyddion Stuff yn Seland Newydd, dolen allanol, ond mae'n dal yn aros i glywed gan unrhyw un sy'n perthyn iddo.
"Dwi wedi cyfarfod aelodau teuluoedd rhai o'r bobl dwi wedi ymchwilio iddyn nhw, ac mae hynny wastad yn hyfryd - yn fonws," meddai.
Cafodd angladd yr Is-Gapten Gannaway ei gynnal ar 9 Tachwedd 1918 gydag anrhydedd llawn y llynges, ddeuddydd yn unig cyn i'r cadoedad ddod â'r ymladd i ben.
Daeth Ms Geoghegan o hyd i adroddiadau papur newydd yn nodi bod dros 200 o ddynion a swyddogion wedi ymuno â'r orymdaith, a fe gafodd iard llongau ei atal o barch iddo.
"Wnes i ddarganfod ei fod wedi priodi â'i gariad ychydig cyn gwirfoddoli a dod i'r Deyrnas Unedig," meddai.
"Roedd yn teimlo'n ddiwedd chwerw i stori serch."
Sarn sy'n cysylltu Ynys Môn ag Ynys Tysilio, ac mae nifer o'r unigolion sydd wedi eu claddu ym mynwent Eglwys Sant Tysilio wedi dod i Gymru o bell.
Un arall sy'n cael ei enwi ar gofgolofn ryfel y fynwent yw William Connington, corpral 23 oed gyda Chorfflu Awyr Awstralia a fu farw o'r ffliw Sbaenaidd yn Sir Buckingham.
"Roedd gan Connington deulu yn yr ardal - mae'n rhaid bod ei dad wedi mudo i Awstralia," meddai Ms Geoghegan.
"Roedd ei fodryb a chefnder yn byw ym Mhorthaethwy. Dwi'n meddwl bod hi'n debygol ei fod wedi dod i fyny i aros gyda'r teulu, a phan farwodd fe ddaeth ei fodryb ag o'n ôl i Borthaethwyr o Aylesbury fel ei fod wedi ei gladdu ymhlith ffrindiau."
Ers rhaid blynyddoedd, mae Ms Geoghegan ac eraill wedi ymchwilio a chofnodi unigolion sydd wedi'u henwi ar feddau a chofgolofnau lleol.
Cyn y cyfnod clo diweddaraf, aeth ati i greu taith yn Ynys Tysilio ar sail yr hanesion tu ôl i'r enwau.
Mae'r hanesion hynny'n cyfeirio at "goffadwriaethau teuluol anwyliaid a gladdwyd [oddi cartref] neu a gollwyd yn y môr", ac mae "bron yn bosib i gyffwrdd yn y boen", medd Ms Geoghegan.
Mae arysgrif rhieni'r Is-Gapten Gannaway i'w "mab annwyl" yn datgan: "Bu fyw mewn hedd, bu farw mewn hedd."