Rhybudd am eira a rhew dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
Eira ar ffordd ger Gorsaf, TreffynnonFfynhonnell y llun, John Owen
Disgrifiad o’r llun,

Disgynnodd sawl centimetr o eira fore Gwener diwethaf, fel yma yng Ngorsedd ger Treffynnon

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am eira a rhew ledled Cymru y penwythnos hwn.

Daw'r rhybudd cyntaf i rym am 16:00 brynhawn Gwener ac mae'n dod i ben am 10:30 fore Sadwrn.

Yr amcangyfrif ydy y bydd rhwng 1-3cm o eira yn cwympo yn y mwyafrif o ardaloedd, gyda 10-15cm ym Mannau Brycheiniog ac Eryri.

Mae rhybudd melyn arall, dolen allanol wedi ei gyhoeddi ar gyfer Cymru gyfan rhwng 03:00 a 18:00 ddydd Sul.

Fe fydd band o law yn troi at eira wrth iddo ymledu tua'r dwyrain, gan arwain at drafferthion trafnidiaeth posib fore Sul.

Daw'r rhybudd wrth i'r gwaith o glirio wedi Storm Christoph barhau.

Mae disgwyl i ragor o law gyrraedd ddechrau wythnos nesaf.

Pynciau cysylltiedig