Llifogydd Sgiwen: Gall pobl fod o'u cartrefi am ddyddiau

  • Cyhoeddwyd
Y pentref wedi'r llifogyddFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Mae o leiaf 80 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi wedi'r llifogydd

Ni fydd trigolion yn cael dychwelyd i'w cartrefi wedi llifogydd ym mhentref Sgiwen nes bydd yn bosib sicrhau eu diogelwch, yn ôl arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Yn ôl yr Awdurdod Glo, mae ymchwiliadau cychwynnol wedi awgrymu bod dŵr wedi cronni mewn hen siafft lofaol cyn gorlifo trwy'r pentref.

Bu'n rhaid i oddeutu 80 o bobl adael eu cartrefi, ac yn ôl arweinydd y cyngor, Rob Jones, mae'n annhebygol y bydd y bosib iddyn nhw ddychwelyd ddydd Llun.

Dywedodd bod yr Awdurdod Glo'n dechrau ymchwiliadau tanddaearol ddydd Sadwrn, ac y gallai'r gwaith gymryd dau neu dri diwrnod.

'Rhaid gwarantu diogelwch y safle'

"Diogelwch yw'r mater pwysicaf i ni," dywedodd wrth raglen Breakfast BBC Radio Wales ddydd Sadwrn.

"Ni allwn ni warantu diogelwch y safle - dyna'r rheswm pam y bydd pobl yn parhau o'u cartrefi nes y gallwn ni roi'r sicrwydd yna.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth mae'r dŵr wedi gwneud dan ddaear."

Ychwanegodd Mr Jones fod hi'n bosib y bydd trigolion yn gallu dychwelyd i'w cartrefi wythnos nesaf ond "doeddwn i ddim eisiau codi gobeithion" y gall hynny ddigwydd ddydd Llun.

Mae'n "fwy na thebygol", meddai, bod cysylltiad rhwng y llifogydd a hen weithfeydd chwe chloddfa yn yr ardal. Mae hanes o gloddio am lo yno ers rhyw 300 o flynyddoedd.

Gwaith pwmpio dŵr 'yn mynd rhagddo'n dda'

Dywedodd Mr Jones bod dŵr yn dal yn llifo o'r safle fore Sadwrn a bod gweithwyr yn ei ddargyfeirio, tra bod peiriannau'r clirio draeniau a chwteri.

Cadarnhaodd y gwasanaeth tân fore Sadwrn bod y gwaith o bwmpio dŵr "yn mynd rhagddo'n dda" yn y pentref.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod swyddogion yn parhau i edrych ar ffyrdd o leihau'r risg o lygredd i afonydd cyfagos, ac yn ymchwilio i unrhyw effeithiau posib ar Afon Nedd.

Ffynhonnell y llun, Yr Awdurdod Glo
Disgrifiad o’r llun,

Map yr Awdurdod Glo o ardaloedd (mewn pinc) ble bu cloddio yn yr ardal a'r dotiau du'n dynodi'r siafftiau

Mae'r Awdurdod Glo, sy'n rheoli effeithiau cloddio yn y gorffennol, yn "ymchwilio'n llawn i'r hyn sydd wedi digwydd", gan ddweud bod offer yn cyrraedd ddydd Sadwrn i ddrilio i'r hen weithfeydd.

Mae'n "debygol", medd y prif weithredwr, Lisa Pinney fod "rhwystr dan ddaear wedi achosi dŵr i gronni a thorri mas drwy'r llwybr hawsaf".

Awgrymodd y byddai glaw trwm y dyddiau diwethaf a thrwy'r gaeaf "wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y system".

"Nid yw'n anarferol i law trwm amlygu nodweddion cloddio hanesyddol neu achosi i ddŵr gwaith glo godi," meddai, "ond mae maint y dŵr yma a hyd yr amser iddo lifo yn anarferol."

Ychwanegodd: "Rydym yn gwybod y bydd pobl eisiau mynd yn ôl i'w cartrefi ac fe wnawn ni barhau i symud ymlaen gyda'r gwaith yma gynted â phosib, ond mae'n rhaid i ddiogelwch y cyhoedd ddod yn gyntaf."

Dywedodd yr AS lleol Stephen Kinnock bod y trigolion sydd wedi'u heffeithio yn aros mewn "llawer o lefydd gwahanol" ar draws y rhanbarth.

Mae'n canmol haelioni "rhyfeddol" y gymuned a chefnogaeth Byddin yr Iachawdwriaeth wrth i bobl gyfrannu bwyd, dillad a nwyddau hylendid ar gyfer y dioddefwyr.

Mae canolfan wedi'i sefydlu i roi cymorth a gwybodaeth i drigolion dros y penwythnos yn Ysgol Gynradd Abbey dros y penwythnos rhwng 09:00 a17:00.

Mae'r cyngor wedi gofyn i drigolion fod yn "amyneddgar wrth i'r ymchwiliad barhau". Mae hefyd wedi sefydlu llinell gymorth - y rhif yw 01639 686868.

Pynciau cysylltiedig