Andrew RT Davies i arwain y Ceidwadwyr yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau'r grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru wedi penderfynu'n unfrydol i Andrew RT Davies eu harwain a hynny am yr eildro.
Mae'n olynu Paul Davies, a ymddiswyddodd o'r swydd ddydd Sadwrn ar ôl yfed alcohol gyda gwleidyddion eraill ar dir y Senedd wedi i waharddiad alcohol ddod i rym yng Nghrymu i atal lledaeniad coronafeirws.
Mewn datganiad dywedodd, Andrew RT Davies ei fod yn "yn anrhydedd ac yn fraint", ac mae eisoes wedi cadarnhau pwy sydd yng nghabinet yr wrthblaid.
Ychwanegodd yr Aelod o'r Senedd yn rhanbarth Canol De Cymru y byddai'r blaid "yn cynnig cynllun positif i sicrhau fod Cymru'n symud unwaith yn rhagor" yn ymgyrch etholiadau'r Senedd ym mis Mai.
Talodd deyrnged i'w ragflaenydd, gan ychwanegu fod yna "waith brys o'n blaenau".
Dywedodd: "Ein prif ffocws fydd parau i ddal y weinyddiaeth Lafur yn y Senedd i gyfri ar faterion hollbwysig fel y rhaglen frechu, ac ymgyrchu yn etholiad Mai gydag ein dewis ardderchog o ymgeiswyr a gwirfoddolwyr ymroddedig."
Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi ei longyfarch, gan ei ddisgrifio fel "ymgyrchydd aruthrol".
Roedd cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Glyn Davies wedi awgrymu y byddai'r arweinydd nesaf wedi'i ddewis yn fuan fel bod y blaid "yn llwyr mewn sefyllfa i barhau i ddelio gyda'n rôl gyfansoddiadol fel un o'r prif bleidiau yn y Senedd" erbyn dydd Llun.
Cadarnhaodd cadeirydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Janet Finch-Saunders fod yr arweinydd newydd wedi cael "cefnogaeth unfrydol" yn eu cyfarfod fore Sul.
Roedd y grŵp wedi datgan cefnogaeth i Paul Davies barhau yn y swydd ddydd Gwener.
Ond dywedodd yntau ddydd Sadwrn na allai gario ymlaen am ei fod wedi "niweidio'r ymddiriedaeth" ynddo, ac "yn dechrau tynnu sylw o'r gwaith o sicrhau atebolrwydd Llywodraeth Cymru Lafur".
Ymddiswyddodd prif chwip y grŵp, Darren Millar hefyd ddydd Sadwrn.
Mae'r ddau wedi ymddiheuro am yfed alcohol gyda'u prydau yn safle trwyddedig y Senedd ar 8 a 9 Rhagfyr, ond maen nhw'n gwadu torri'r rheolau coronafeirws oedd mewn grym ar y pryd.
Cafodd yr AS Llafur, Alun Davies ei atal o'r blaid am ei ran yntau yn y digwyddiad, ac mae awdurdodau'r Senedd wedi cyfeirio'r achos at Gyngor Caerdydd a Chomisiwn Safonau'r Senedd.
Yn wahanol i Paul Davies, roedd Andrew RT Davies hefyd yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y cyfnod rhwng 2011 a 2018 y tro cyntaf iddo arwain y grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd.
Ymddiswyddodd dros sylwadau a wnaeth ynghylch pryderon cwmni Airbus am Brexit.
Ymateb y pleidiau eraill
Cafodd Andrew RT Davies feirniadaeth yn ddiweddar gan gyn-aelodau'r Blaid Geidwadol a gwleidyddion Llafur am gymharu terfysg yng Nghyngres America â phobl oedd yn cefnogi ail refferendwm Brexit.
Yn ôl dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Angela Rayner "mae'n warth" fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi penodi arweinydd "sy'n dynwared Donald Trump",
Ychwanegodd fod y Ceidwadwyr "wedi methu gweithredu ac mae e wedi gwrthod ymddiheuro" yn wyneb galwadau arno i ymddiswyddo dros y sylwadau fel ymgeisydd yn etholiadau Senedd Cymru.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Plaid Cymru, Adam Price: "Wedi'r gwrthdrawiad, dychwela'r gyrrwr sedd gefn i yrru Cymru am yn ôl.
"Wedi ei wrthod unwaith gan ei dîm ei hun yn y Senedd, bydd yn awr yn mynd ati gyda'i brosiect bersonol o ddileu pwerau'r Senedd a mynd â democratiaeth Cymru'n ôl ddegawdau.
'Profiad, talent a gweledigaeth'
Cyhoeddodd Andrew RT Davies brynhawn Sul fanylion cyfrifoldebau cabinet newydd yr wrthblaid yn y Senedd:
Cyllid, Gogledd Cymru a Phrif Chwip: Mark Isherwood
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Angela Burns
Economi, Trafnidiaeth a Chanolbarth Cymru: Russell George
Addysg, Sgiliau a'r Iaith Gymraeg: Suzy Davies
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Janet Finch-Saunders
Tai a Llywodraeth Leol, Cydraddoldeb, Plant a Phobl Ifanc: Laura Anne Jones
Iechyd Meddwl, Llesiant, Diwylliant a Chwaraeon: David Melding
Dywedodd Mr Davies ei fod yn "falch o symud ymlaen yn gyflym y prynhawn ma' a chyhoeddi Cabinet yr Wrthblaid... sydd wedi'i adeiladu ar sail cadarn profiad, talent a gweledigaeth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021