Ymddiswyddiad Paul Davies: Cip ar ei yrfa wleidyddol
- Cyhoeddwyd
Yn bâr saff o ddwylo i'w gefnogwyr, ond yn gymeriad di-fflach i eraill, prin y byddai unrhyw un wedi rhagweld byddai arweinyddiaeth Paul Davies yn dod i ben dan yr amgylchiadau yma.
Fe oedd y dyn i uno'r Ceidwadwyr Cymreig ar ôl iddyn nhw ddiorseddu ei ragflaenydd Andrew RT Davies.
Ond yn awr, fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddewis ymgeisydd arall i fod yn brif weinidog Cymru - a hynny ar fyr rybudd.
Ganwyd Paul Davies yn 1969 ac fe gafodd ei fagu ym mhentref Pont-siân, yng Ngheredigion. Aeth i'r ysgol ramadeg yn Llandysul a'r ysgol gyfun yng Nghastell Newydd Emlyn.
Wedi cwblhau ei arholiadau Lefel A, aeth i weithio i fanc Lloyd's am 20 mlynedd cyn cael ei ethol yn aelod dros Breseli Penfro yn 2007.
Wrth egluro'i weledigaeth yn ddiweddar, dywed iddo beidio â chymryd llawer o ddiddordeb mewn hynt a helynt gwleidyddion tra'n gweithio yn y banc.
Tu hwnt i'w waith, talu'r biliau a phenderfynu ble i fynd ar wyliau gyda'i wraig, Julie oedd y flaenoriaeth, meddai. Mae'r ddau yn byw ym Mlaenffos, yng ngogledd ei etholaeth.
Uchelgais gwleidyddol
Ond mae'n rhaid ei fod wedi magu rhywfaint o uchelgais gwleidyddol ar hyd y blynyddoedd. Wedi'r cyfan, safodd yn aflwyddiannus am San Steffan ddwywaith cyn cyrraedd Bae Caerdydd.
Bedair blynedd yn ddiweddarach fe'i benodwyd yn ddirprwy arweinydd i Andrew RT Davies.
Bu'r ddau ar naill ochr y ddadl dros Brexit, gyda Paul Davies o blaid aros yr Undeb Ewropeaidd.
Ond fe gadwodd allan o'r ffraeo ffyrnig a ddaeth yn nodweddiadol o'r blaid wrth i Theresa May ymdrechu'n ofer i arwain Prydain o'r Undeb.
Gyda'r anghytuno'n fyddarol pan gafwyd gwared ar Andrew RT Davies ym Mehefin 2018, trodd y blaid at Paul Davies i gymryd yr awenau dros dro.
Dri mis yn ddiweddarach, fe'i etholwyd yn arweinydd parhaol. Roddwyd mandad clir iddo yn ei fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn Suzy Davies.
Cael ei benodi'n arweinydd ar y blaid yng Nghymru, nid yn unig yn arweinydd ar y grŵp Torïaidd yn y Senedd, oedd ei ddymuniad.
Ond fe gladdwyd y syniad hwnnw gan adolygiad mewnol o strwythur y blaid.
Serch hynny, fe geisiodd Mr Davies osod cywair newydd ar gyfer polisïau'r Ceidwadwyr Cymreig - un fyddai fwy at dant y ganran o gefnogwyr hynny sydd wastad wedi bod yn amheus ynghylch datganoli.
Gyda chymorth ei brif chwip Darren Millar, addawodd "chwyldro", gan ddweud byddai llywodraeth dan ei arweinyddiaeth yn cynnwys llai o weinidogion ac yn rhoi'r gorau i chwilio am ragor o rym.
Aeth mor bell a chynnig "dose of Dom" - cyfeiriad at ymgynghorydd dadleuol Boris Johnson, Dominic Cummings - dyn oedd yn mwynhau procio'r sefydliad.
Ond mae'n anodd dychmygu Paul Davies, un sy'n uchel ei barch ymhlith ei elynion gwleidyddol, yn chwarae'r un rôl.
Gyda Mark Drakeford dan y chwyddwydr yn gyson yn ystod y pandemig, roedd yn anodd i Mr Davies hawlio sylw fel arweinydd yr wrthblaid. Yn wir, ar adegau, teimlai fel bod Andrew RT Davies, bellach yn llefarydd y blaid ar iechyd, yn y penawdau'n amlach.
Mae 'na wrthgyferbyniad rhyngddo a Douglas Ross, arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, sydd wedi ennill enw iddo'i hyn fel Tori sy'n barod i ymosod ar Boris Johnson pan fo'n rhaid.
Nid dyna steil Paul Davies. Hyd yn oed pan honnwyd bod Mr Johnson wedi dweud bod datganoli yn drychineb, dim ond yn gwrtais iawn y gwnaeth Paul Davies anghytuno.
Fe wnaeth ei orau glas i osgoi ymuno yn y cwympo mas o fewn y blaid.
Yn hynny o beth, fe lwyddodd.
Ond yn y diwedd, ei ymddygiad personol, nid holltau'r blaid, ddaeth a'i arweinyddiaeth i ben.
"Fel prif weinidog, fe wna i arwain drwy osod esiampl," dywedodd y llynedd.
Diolch i'r hyn a wnaeth ar noson Rhagfyr yr 8fed, byddai wedi bod yn amhosibl iddo wireddu'r uchelgais yna.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2021