'18 mis neu fwy' i ailgodi pont hynafol wedi difrod

  • Cyhoeddwyd
Pont afon ClwydFfynhonnell y llun, Liahll Bruce

Bydd cynllunio i ailgodi pont hynafol yn Sir Ddinbych yn cymryd "18 mis neu fwy", yn ôl yr awdurdod lleol.

Syrthiodd Pont Llannerch rhwng Tremeirchion a Threfnant yn ystod llifogydd yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl cynghorydd cymuned, mae colli'r strwythur cofrestredig yn gosod "cryn dipyn o her" i bobl y cylch.

Am y tro, mae gwyriad ar waith sy'n arwain traffig ar hyd yr A55.

Dywedodd Dewi Davies o Gyngor Cymuned Tremeirchion fod y bont yn rhan bwysig o'r rhwydwaith lleol.

"Mae'n golygu siwrne llawer hirach i rai pobl i fynd o Dremeirchion draw i Drefnant neu Llanelwy," meddai.

"Dwi'n gwybod am un cwpl sydd â cheffyl mewn stabl yr ochr arall i'r afon - felly mae'n golygu siwrne o saith milltir bob ffordd ddwywaith y diwrnod rŵan.

"Felly mae'n gryn dipyn o her, a 'dyn ni'n dechrau meddwl am ba mor hir bydd yn rhaid delio efo'r her. 'Dan ni'n sôn am flwyddyn, dwy, tair neu, hwyrach, llawer hirach na hynny?"

Codwyd y bont, sy'n adeilad rhestredig gradd dau, yn yr 1800au.

Mae AS Dyffryn Clwyd, James Davies, yn galw am ei hailgodi "gyda dyluniad a gorffeniad sy'n cyd-fynd â'r amgylchiadau".

Ond ychwanegodd ei fod yn "cydnabod y bydd yn rhaid i'r strwythur newydd ystyried heriau llif presennol ac arfaethedig yr afon".

Awgrymodd y cynghorydd dros Drefnant, Meirick Lloyd Davies, y dylid lledu'r bont.

"Bydd yn rhaid i'r bont fynd yn ei ôl bron iawn fel yr oedd, gan ei bod wedi ei chofrestru," meddai Mr Davies, sydd hefyd yn gadeirydd ar y cyngor sir.

"Mi faswn i'n hoffi gweld ei lledu hi. Maen nhw wedi lledu pontydd sydd wedi eu cofrestru - mae Llangollen yn un [enghraifft] dda."

Ychwanegodd: "Bydd rhaid cael arian gan Lywodraeth Cymru, gan obeithio bydd Llywodraeth y DU yn barod i roi dipyn yn y bwced, achos mae'n gostus ofnadwy."

Gan ddweud fod hon yn "ffordd bwysig yn lleol", dywedodd Cyngor Sir Ddinbych y byddant yn "ceisio datrys hyn cyn gynted ag y gallwn".

"Bydd llawer drydydd parti ynghlwm â'r cynlluniau terfynol ar gyfer y bont a gallai gymryd hyd at 18 mis neu fwy i'w ddatrys," meddai llefarydd.

Diolchodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru i'r sefydliadau a ymatebodd i'r llifogydd, gan ddweud bod amddiffynfeydd wedi gwrthsefyll y storm ar y cyfan.

O ran ailgodi'r bont, dywedodd: "Cyfrifoldeb y perchennog yw cyflwr y strwythur ac mae gan awdurdodau lleol ystod o bwerau statudol i sicrhau bod asedau rhestredig yn eu hardal yn cael eu cadw a'u hadfer mewn ffordd addas."

Pynciau cysylltiedig