Gwaith cymdeithasol: Disgwyl 'tsunami' o anghenion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PlentynFfynhonnell y llun, Getty/Xavier_s

Mae gweithwyr cymdeithasol yn disgwyl gweld "tsunami o anghenion" pan fydd y DU mewn sefyllfa i wella o'r pandemig, yn ôl undeb sydd yn cynrychioli gweithwyr cymdeithasol.

Mae hyn o achos llwyth gwaith cynyddol a chyfyngiadau'r cyfnod clo, medd undeb BASW.

Dywedodd un sy'n gweithio gyda phlant wrth y BBC ei bod hi'n ofni "y gallai pethau gael eu methu" a "gall rhywbeth anffodus ddigwydd" o orfod cynnal y mwyafrif o ymweliadau ar-lein yn hytrach na wyneb yn wyneb.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag unrhyw effaith gan y pandemig i'r dyfodol.

'Ni'n wirioneddol ofnus'

Daw'r pryderon wrth i arolwg a gynhaliwyd gan undeb BASW rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr y llynedd ddangos bod mwyafrif yr aelodau wedi gweld cynnydd mewn atgyfeiriadau ers i ysgolion ddychwelyd yn yr hydref.

Fe wnaeth dros 1,000 o aelodau o bob cwr o'r DU ymateb i'r arolwg.

Mae'r arolwg yn dangos bod mwy na dwy ran o dair wedi gweld cynnydd mewn atgyfeiriadau neu lwyth gwaith o achosion ers i ddisgyblion ddychwelyd i ysgolion yn yr hydref, gyda dros dri chwarter yn poeni am eu gallu i ddiogelu ac amddiffyn oedolion a phlant oherwydd y cyfyngiadau clo.

Mae'r sefyllfa yr un peth ar draws y cenhedloedd datganoledig, yn ôl Allison Hulmes, cyfarwyddwr cenedlaethol BASW Cymru. Ac mae na ofn y gallai pethau barhau i waethygu cyn iddyn nhw wella.

"Dyma ddim ond megis dechrau ar hyn o bryd, rydyn ni'n wirioneddol ofnus am yr hyn sydd i ddod oherwydd effaith y pandemig coronafeirws.

"Mae cymaint o blant na fyddent wedi bod yn agored i niwed cyn y pandemig ond sydd wedi dod yn agored i niwed fel y mae'r pandemig wedi datblygu.

"Ein hofn ni yw y bydd tsunami o angen fydd yn trosi i atgyfeiriadau cynyddol a galw cynyddol ar y proffesiwn."

Galwodd am "lwybr clir" ar gyfer dychwelyd i ysgolion, a buddsoddi mewn gweithwyr cymdeithasol sydd wedi "gwneud gwaith anhygoel o anodd ac rydym am i'r gêm o weld bai ddod i ben".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiodd un gweithiwr cymdeithasol sy'n gweithio gyda phlant i'r BBC achos lle bu cyswllt gyda theulu trwy Zoom, oedd bob amser yn dangos cefndir wal wag yr ystafell fyw.

Ar un achlysur cafodd y cyfrifiadur ei daro i safle gwahanol ar ddamwain a gwelodd y gweithiwr blentyn yn cysgu ar fatres ar y llawr.

Wedi gweld hyn, fe alwodd y gweithiwr cymdeithasol i'r tŷ ar frys a darganfod ffenestri llaith oedd wedi torri, ychydig iawn o ddodrefn ac roedd y llawr yr oedd y plentyn yn cysgu arno wedi'i orchuddio â baw anifeiliaid.

'Proffesiwn allweddol sydd wedi ei anghofio'

Ychwanegodd y gweithiwr cymdeithasol: "Faint o blant ifanc ydym ni wedi'u colli - achosion ofnadwy a allai ddod i'r amlwg pan fydd y pandemig hwn drosodd?

"Sut ydyn ni hyd yn oed yn dechrau trwsio'r difrod sy'n cael ei wneud i'r plant hyn tra bod gweddill pen y wlad wedi troi i ffwrdd?

"Roeddem ni mewn argyfwng llwyr ym maes gofal plant cyn y pandemig, nawr mae wedi chwalu'n llwyr."

Dywedodd un arall mai "gwaith cymdeithasol yw'r proffesiwn allweddol sydd wedi ei anghofio".

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag unrhyw effaith gan y pandemig i'r dyfodol.

Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod wedi cychwyn adolygiad o ofal cymdeithasol plant yn Lloegr, tra bod Adran Iechyd Gogledd Iwerddon wedi dweud ei bod yn cynnal adolygiad o weithlu'r gwasanaethau cymdeithasol i helpu i ateb y "galw cyfredol a'r disgwyl".

Yn yr Alban, dywedodd llywodraeth y wlad honno ei bod yn rhoi taliad unwaith ac am byth pro-rata o £500 i weithwyr rheng flaen - gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol - i gydnabod eu gwaith yn y pandemig.

Pynciau cysylltiedig