Gweithwyr Airbus yn pleidleisio o blaid lleihau oriau
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr ffatri Airbus ym Mrychdyn wedi pleidleisio o blaid lleihau eu horiau er mwyn ceisio atal diswyddiadau gorfodol.
Cafodd y cynnig ei roi gerbron wedi i'r cwmni gyhoeddi yn ystod yr haf ei bod yn ystyried cael gwared â 1,435 o swyddi o'r ffatri yn y gogledd-ddwyrain.
Fe allai nifer o weithwyr dderbyn diswyddiadau gwirfoddol ond mae dyfodol rhwng 350 a 400 o swyddi yn parhau yn y fantol.
Y gobaith ydy y bydd gostwng oriau'r wythnos waith o gymorth i'r ymdrechion i osgoi diswyddiadau gorfodol.
Roedd y bleidlais, ymhlith 3,500 o aelodau undeb Unite, wedi cau fore Llun.
Cyn y bleidlais, dywedodd llefarydd ar ran yr undebau y byddai gweithwyr yn debygol o golli 6.6% o'u cyflog petaen nhw'n pleidleisio o blaid wythnos waith fyrrach.
Bydd y trefniant newydd yn dod i rym pan fydd cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben, ac fe fyddai yn parhau tan y Nadolig.
Mae ffatri Airbus yn cyflogi tua 6,000 o bobl. Ym mis Ebrill cafodd 3,200 eu rhoi ar gynllun ffyrlo Llywodraeth San Steffan.
Ym mis Gorffennaf 2020 rhybuddiodd AS Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd fod pob un o swyddi Airbus yn cefnogi tair arall yn lleol.
"Ry'n ni'n sôn am 25,000 o bobl sy'n ddibynnol ar Airbus ym Mrychdyn am eu gwaith," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2020