'Rhaid gwella' toiledau cyhoeddus i ddioddefwyr Crohn's
- Cyhoeddwyd
Nid yw safon toiledau cyhoeddus yn addas i bobl sydd â llid y coluddyn (inflammatory bowel disease), yn ôl menyw sy'n dioddef o glefyd Crohn.
Ond i bobl fel Anne Marie Jones o Fangor, yng Ngwynedd, yn aml does dim dewis arall.
"Os ti angen mynd, mae'n rhywbeth sy'n digwydd ar frys a ti angen y toiled 'na y funud yna." meddai. "Does 'na'm amser disgwyl."
Daw wrth i ymchwil y BBC ddangos bod llai na hanner cynghorau Cymru yn cadw eu toiledau cyhoeddus yn agored yn ystod y pandemig.
'Ddim yn lân iawn'
Mae clefyd Crohn yn gyflwr cronig sy'n effeithio'r system dreulio. Mae'n un o ddau fath o lid y coluddyn, ynghyd â colitis briwiol.
Ar hyn o bryd, nid oes modd gwella'r cyflwr, ond gall cyffuriau neu lawdriniaeth roi cyfnodau hir o ryddhad rhag symptomau.
Yn ôl astudiaeth newydd gan Crohn's & Colitis UK, mae gan 23,000 o bobl yng Nghymru - tua un o bob 117 - un o'r ddau brif fath o lid y coluddyn.
Ers cael diagnosis Clefyd Crohn yn 16 oed, daeth heriau meddyliol ochr yn ochr â delio â'r afiechyd wrth i Anne Marie dyfu fyny, gan reoli lle y gallai fynd a beth allai wneud.
Er bod ei chyflwr bellach dan reolaeth, dywedodd bod ei phrofiadau wedi ei hatal rhag mynd i lefydd cyhoeddus er mwyn osgoi'r stigma a'r pryder sy'n dod gyda'r salwch.
"Dwi'n dallt does gen bobl ddim yr ymwybyddiaeth o be' ydy o. Wrth i chdi fynd yn hŷn, rwyt ti yn cael mwy o hyder a dydy o ddim yn dy boeni di, ond pan ti'n ifanc, mae o rywbeth ofnadwy," meddai.
"Y cywilydd, y teimlad erchyll 'na a hwnna wedyn yn effeithio ti a bod chdi'n penderfynu peidio mynd allan. Mae'n effaith ofnadwy ar bobl sy'n byw efo'r cyflwr."
Mae angen i gynghorau wario mwy ar doiledau cyhoeddus i'w gwella at y "safon y ddyla' nhw fod", yn ôl Anne Marie.
"Dydyn nhw ddim yn lan iawn i ddweud y gwir."
Ond, meddai, "mae o un ai hynna, neu bo' chdi'n ffeindio dy hun wedi cael damwain".
Yn ôl astudiaeth Crohn's & Colitis UK, gafodd ei chynnal gan y gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn Abertawe, mae carfan fawr, gudd o bobl sydd â chlefyd Crohn neu lid y coluddyn.
Mae'r data'n awgrymu nad yw byrddau iechyd yng Nghymru yn cynllunio ar eu cyfer ar hyn o bryd, oherwydd nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn bodoli.
Mae Crohn's & Colitis UK yn galw ar fyrddau iechyd i adolygu eu gwasanaethau presennol er mwyn delio ag anghenion pawb sydd â'r salwch.
Gofynnodd y BBC i holl gynghorau sir Cymru a oedd eu toiledau cyhoeddus ar agor yn ystod y pandemig.
O'r 21 cyngor a ymatebodd i ymholiadau'r BBC, dim ond 11 oedd yn cadw toiledau ar agor.
Ymhlith y rhai sydd wedi dewis eu cau mae Caerdydd, Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf.
Cydnabod pwysigrwydd
Wrth ymateb i bryderon Anne Marie, dywedodd Cyngor Gwynedd bod cyfanswm o 41 o doiledau cyhoeddus ar agor yn y sir ar hyn o bryd.
Fe wnaethant bwysleisio'r anogaeth i unrhyw un sy'n defnyddio'r toiledau ddilyn y rheoliadau i helpu atal lledaeniad coronafeirws.
Nodwyd hefyd bod nifer o doiledau eraill sydd ar agor yn ystod misoedd yr haf ar gau ar hyn o bryd, fel y byddant mewn unrhyw flwyddyn dros y gaeaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd toiledau cyhoeddus i gymaint o bobl. Perchnogion neu weithredwyr toiledau sy'n gyfrifol am agor a rheoli toiledau er defnydd y cyhoedd yng Nghymru.
"Rydym wedi darparu canllawiau iddyn nhw eu hystyried o ran ailagor a rheoli toiledau cyhoeddus i leihau lledaeniad y coronafeirws."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2017