Suzy Davies wedi tynnu'n ôl fel ymgeisydd Pen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Suzy Davies

Ni fydd cyn-ymgeisydd am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn sefyll yn etholiadau eleni ar ôl penderfynu tynnu'n ôl fel ymgeisydd.

Y ddealltwriaeth yw bod Suzy Davies, llefarydd addysg y blaid, wedi tynnu'n ôl fel ymgeisydd y blaid yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr.

Collodd ei chyfle gorau i gael ei hail-ethol fel Aelod o'r Senedd ar ôl methu â chadw ei lle ar restr ymgeiswyr y Torïaid ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Dywedodd arweinydd y blaid ym Mae Caerdydd, Andrew RT Davies ei bod "wedi gadael ei marc ar y Senedd".

Cafodd Ms Davies ei hethol yn aelod yn y lle cyntaf yn 2011, ac ymgeisiodd yn erbyn Paul Davies i arwain y Ceidwadwyr yn 2018.

Cafodd ei hethol yn 2016 fel yr ymgeisydd ar frig rhestr ranbarthol y Ceidwadwyr Cymreig yng Ngorllewin De Cymru, ond yr wythnos ddiwethaf nid oedd ymhlith pedwar uchaf rhestr ymgeiswyr y blaid eleni yn y rhanbarth.

Gwadodd ar Twitter ei bod wedi colli ei lle am ei bod o blaid datganoli, gan fynnu na chafodd ei holi am ei safbwynt ar y mater yn ystod y broses dewis ymgeiswyr.

Dywedodd bryd hynny y byddai ei holynydd "yr un mor awyddus i gael Llywodraeth Cymru Geidwadol a fi".

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Ms Davies am sylw ynghylch tynnu'n ôl fel ymgeisydd.

Roedd hi wedi dweud wrth aelodau'r grŵp Ceidwadol yn y Senedd ddydd Gwener diwethaf na fyddai'n sefyll mwyach yn yr etholaeth, yn ôl eu harweinydd, Andrew RT Davies.

"Mae Suzy Davies wedi bod yn gynrychiolydd ardderchog dros Ganol De Cymru dros y degawd diwethaf," meddai.

"Mae Suzy wedi gadael ei marc ar y Senedd, o weithredu fel cyfarwyddwr polisi yn ei thymor cyntaf, i'w hymgyrchu rhagorol ar CPR a diffibrilwyr, sydd wedi codi ymwybyddiaeth ac achub bywydau ar draws Cymru.

"Rwy'n hapus iawn bod Suzy am barhau gyda'i gwaith rhagorol yn y portffolio addysg, sydd wedi denu canmoliaeth drawsbleidiol a does dim amheuaeth gen i y bydd yn parhau gyda'i gwasanaeth cyhoeddus gwych yn y blynyddoedd i ddod."