Suzy Davies yn colli ei lle ar restr y Ceidwadwyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Suzy Davies

Mae cyn-ymgeisydd am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig wedi colli ei chyfle gorau i gael ei hail-ethol yn ôl i'r Senedd yn yr etholiad yn ddiweddarach eleni.

Methodd Suzy Davies gadw ei lle ar restr ymgeiswyr y Torïaid ar gyfer ardal Gorllewin De Cymru.

Mae hyn yn golygu bod ei gobeithion o aros yn y Senedd yn dibynnu ar ei gallu i ennill etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr ble roedd gan Llafur fwyafrif o fwy na 5,600 yn yr etholiad diwethaf.

Rhedodd Ms Davies, AS ers 2011, yn erbyn Paul Davies mewn ymgais i arwain y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn 2018.

Ms Davies oedd dewis cyntaf y Ceidwadwyr Cymreig fel ymgeisydd yn rhanbarth Gorllewin De Cymru yn 2016, ond cafodd ei gwthio o dop y rhestr pan ddewisodd y blaid ei hymgeiswyr ar gyfer Etholiad 2021.

Dewisodd aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig cynghorydd sir Pen-y-bont ar Ogwr, Tom Giffard, fel y dewis cyntaf ar y rhestr.

Ar Twitter, gwadodd Ms Davies ei bod wedi colli allan o ganlyniad i'w safbwyntiau o blaid datganoli, a dywedodd nad oedd y rheiny wedi cael eu trafod yn ystod y broses dethol.

Yn ardal Canol De Cymru, lle cadwodd Andrew RT Davies ei le ar dop y rhestr, gofynnwyd i ymgeiswyr sut y byddan nhw'n pleidleisio mewn refferendwm i ddiddymu'r Senedd.

Ysgrifennodd Ms Davies: "Diolch yn fawr am yr holl negeseuon caredig am newidiadau rhestr Gorllewin De Cymru. Fi wir yn eu gwerthfawrogi.

"Fi'n gwybod bod rhai'n dewis gweld hyn fel rhyw fath o ddethol yn gysylltiedig â datganoli, ond mewn gwirionedd y ddynameg hen-ffasiwn o fewn y blaid oedd tu ôl i hyn wir.

"Fi'n gwybod bydd fy olynydd yn yr un mor awyddus i gael Llywodraeth Cymru Geidwadol a fi."