Y Gynghrair Genedlaethol: King's Lynn 0-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Roedd Wrecsam yn drech na King's Lynn i gadw'r gobeithion am ddyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol yn uchel.
Tarodd Jamie Reckord o bellter agos cyn i Adi Yussuf ychwanegu'r ail cyn yr egwyl.
Roedd y golwr Christian Dibble wedi cadw'r ymwelwyr draw gyda chyfres o arbediadau gwych yn yr ail hanner.
Mae Wrecsam wedi codi i nawfed yn y tabl a thri phwynt oddi ar y gemau ail-gyfle.