'Dim normalrwydd wedi Covid tan flwyddyn nesaf'
- Cyhoeddwyd

Mae'r Athro Helen Rees yn rhybuddio na fydd "modd dychwelyd i normalrwydd" nes bod y byd cyfan wedi'i frechu
Dyw cymdeithas ddim yn debygol o ddychwelyd i'r hyn oedd hi "tan yn hwyr y flwyddyn nesaf" medd gwyddonydd blaenllaw.
Dywed yr Athro Helen Rees y gallai'r brechlynnau cyntaf - y rhai sy'n cael eu rhoi ar hyn o bryd - fod yn llai effeithiol wrth i amrywiolion newydd o Covid-19 ddatblygu.
O ganlyniad i hynny, dywedodd yr Athro Rees ar raglen BBC Wales Live, nad yw hi'n debygol y bydd brechu eang o fewn y boblogaeth yn digwydd tan 2022.
Mae'r Athro Rees, sydd â theulu yng Nghymru ac yn byw yn Ne Affrica, yn aelod o bwyllgor Covid-19 Sefydliad Iechyd y Byd.
Daw ei sylwadau wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru ymchwilio i ledaeniad posib amrywiolyn De Affrica o'r haint mewn cymunedau yng Nghymru.
Pam y pryderon am amrywiolyn De Affrica?

Mae'r Athro Helen Rees yn aelod o bwyllgor Covid-19 Sefydliad Iechyd y Byd
"Ein pryder yw bod amrywiolyn De Affrica yn debyg i amrywiolyn y DU," medd yr Athro Rees, sydd yn cynorthwyo gyda sut y dylid ymateb i'r straen newydd.
"Ar hyn o bryd does dim tystiolaeth ei fod yn achosi salwch mwy difrifol ond y pryder yw beth fydd ei effaith ar y brechlynnau."
Mae'r Athro Rees yn dweud bod treialon clinigol i effeithiolrwydd brechlynnau Novavax a Janssen yn dangos nad yw eu heffaith gystal yn erbyn amrywiolyn De Affrica o'r haint.
Dywed hefyd bod gwyddonwyr yn poeni na fydd brechlynnau AstraZeneca a Pfizer mor effeithiol. Maen nhw'n cynnwys "y feirws gwreiddiol o China" ac mae yna bryder na fydd hynny yn effeithiol wrth i nifer cynyddol o amrywolion ymddangos.
"Y cwestiwn mawr yw a fydd y modd y mae'r brechlyn yn targedu'r feirws yn parhau'n effeithiol," meddai'r Athro Rees.
"Y broblem yw bod y brechlynnau cyntaf yn targedu y sbigyn protein ac yn y fan honno ry'n ni'n gweld y newidiadau cynyddol."
Ydyn ni wedi symud gam yn ôl?

Mae'r dystiolaeth bod brechlyn AstraZeneca yn gallu arafu lledaeniad yn "gyffrous iawn" medd yr Athro Rees
"'Dan ni ddim o reidrwydd wedi symud gam yn ôl," medd yr Athro Rees. "Yn y DU mae gennych eich amrywiolyn eich hun a hwnnw yw'r prif un sy'n bodoli.
"Mae amrywiolyn De Affrica yn newydd ac mae'r niferoedd yn fychan iawn.
"Ac mae'r holl ddata yn dangos bod brechlyn AstraZeneca yn mynd i fod yn effeithiol o ran lleihau salwch unigolyn ac hefyd mae'n debygol o ostwng y lledaeniad sy'n gyffrous iawn."
A ddylai ysgolion ailagor?

Rhaid i gyfyngiadau llym barhau os yw ysgolion yn ailagor, medd yr Athro Rees
Ychwanega'r Athro Rees y bydd yn rhaid i orchmynion fel cadw pellter cymdeithasol barhau os yw ysgolion yn ailagor hyd yn oed gyda dyfodiad brechlynnau.
"Bydd yn rhaid hefyd parhau i wisgo mygydau ac agor ffenestri er mwyn awyru ystafelloedd," ychwanegodd.
Am ba hyd?

"Rwy'n ofni bydd yn rhaid aros tan yn hwyr flwyddyn nesaf cyn y gwelwn ni newid go iawn - a nifer o frechlynnau fydd yn sicrhau'r newid hwnnw," ychwanegodd yr Athro Rees.
"Bydd yn rhaid i'r arfer o wisgo mygydau, ymbellhau'n gymdeithasol barhau - mae'r feirws yn gas ac mae'n gwybod sut i newid. Os am gael gwared ohono fy neges i i'r gwleidyddion yw parhau â'r cyfynigadau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021