Achosion Covid yn gostwng ond pryder am amrywiolyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cynhadledd
Disgrifiad o’r llun,

Dr Rob Orford (chwith) a Dr Frank Atherton (dde) yn siarad yn y gynhadledd

Mae nifer yr achosion positif o coronafeirws yng Nghymru yn parhau i ostwng, ond mae pryder am amrywiolyn sy'n ymledu drwy'r wlad.

'Amrywiad Caint' ydy'r amrywiolyn amlycaf yn y rhan fwyaf o ardaloedd yma bellach, yn ôl prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru.

"Rydym yn credu mai'r straen yma sy'n gyfrifol am y nifer uchel o achosion ers cyn ac ar ôl y Nadolig," meddai Dr Rob Orford yng nghynhadledd i'r wasg y llywodraeth ddydd Mercher.

Cyfeiriodd Dr Orford hefyd at ddau amrywiolyn arall, un o Dde Affrica a'r llall o Frasil.

Hyd yma mae 10 achos o'r math De Affrica wedi ei gofnodi yng Nghymru - y rhain i gyd o bobl sydd wedi teithio dramor.

"Mae datblygiad yr amrywiad newydd o haint yn codi her newydd oherwydd y posibilrwydd y gallant newid natur y pandemig, drwy gynyddu cyflymder yr haint ac felly'r nifer sy'n cael eu heintio," meddai Dr Orford.

"Ein pryder mwyaf, wrth reswm, yw y gallai straen newydd ymddangos na fydd yn ymateb i'r brechlyn - gan fynd â ni'n ôl i ble roedden ni ar gychwyn hyn oll."

Ychydig cyn y gynhadledd cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 49 yn rhagor wedi marw gyda coronafeirws, gan fynd â chyfanswm y marwolaethau yng Nghymru i 4,610.

Cadarnhawyd 537 o achosion newydd yng Nghymru dros y 24 awr diwethaf. Bellach mae 189,689 o brofion positif wedi bod ers dechrau'r pandemig.

Er hynny, dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton bod nifer yr achosion "wedi bod yn gostwng yn gyson ers yn gynnar ym mis Ionawr".

Ychwanegodd bod y gyfradd dros saith diwrnod bellach o gwmpas 200 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.

"Mae hyn yn sylweddol is na'r cyfraddau uchel iawn o 650 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth roedden ni'n eu gweld yn yr wythnosau cyn Nadolig," meddai Dr Atherton.

Mae'r gostyngiad, meddai, i'w weld "ymhob rhan o Gymru".

Rhif R yn is nag 1

Mae'r Rhif R - sy'n dynodi faint o bobl sy'n debygol o gael eu heintio gan glaf gyda'r feirws - hefyd wedi gostwng islaw 1.

Yn ôl Dr Atherton, mae bellach rhwng 0.7 a 0.9.

"Mae hyn oll yn dweud wrthym fod trosglwyddiad yr haint yn arafu a maint yr achosion presennol yn lleihau," meddai.

"Mae hyn yn newyddion positif, ond nid ydym allan o berygl eto.

"Gydag o gwmpas 200 o achosion i bob 100,000 o bobl, mae lefelau coronafeirws yn dal yn uchel iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Atherton fod Cymru yn brechu rhywun bob pum eiliad ar gyfartaledd yr wythnos ddiwethaf

Mae gwasanaethau iechyd "yn dal dan bwysau parhaus", medd Dr Atherton.

Ond ychwanegodd bod rhai arwyddion bod nifer y cleifion sy'n cael eu danfon i'r ysbytai gyda symptomau coronafeirws "yn dechrau sefydlogi".

"Rydym hefyd yn dechrau gweld rhai arwyddion bychan ond cynnar o leihad yn y galw am ofal dwys," dywedodd.

"Ond rydym eto i weld gostyngiad y trosglwyddiad cymunedol yn amlygu ei hun drwodd i'r GIG."

'Brechu bob pum eiliad'

Mae'r ffigyrau brechu diweddaraf - 312,305 o bobl wedi cael eu brechiad coronafeirws cyntaf - yn "wir gynnydd", meddai Dr Atherton.

"Dros yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth ein timau rhagorol frechu rhywun yng Nghymru bob pum eiliad.

"Mae'r rhaglen frechu'n cyflymu gyda phob wythnos sy'n mynd heibio ac mae lefel yr amddiffyniad yn codi wrth i fwy o bobl gael eu dos cyntaf.

"Rydym yn canolbwyntio ar frechu pawb sy'n gweithio neu'n byw mewn cartrefi gofal erbyn diwedd y mis i gyrraedd carreg filltir nesaf ein Strategaeth Frechu.

"Ac rydym ar y trywydd cywir o ran ein carreg filltir gyntaf o gynnig brechiad i'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror."

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth eu bod wedi methu eu targed i frechu 70% o'r bobl dros 80 oed erbyn diwedd y penwythnos diwethaf.

Awgrymodd y llywodraeth fod y tywydd yn ffactor wrth iddyn nhw fethu â chyrraedd carreg filltir gyntaf y rhaglen frechu, er i'r gwrthbleidiau ddadlau mai esgus oedd hynny.

Pynciau cysylltiedig