Dileu system unffordd Rhuthun yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Ffordd unffordd Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd potiau blodau a physt wedi cael eu gosod ar hyd rhai o'r ffyrdd er mwyn i bobl allu cadw pellter cymdeithasol

Bydd y system unffordd dros dro yng nghanol tref Rhuthun yn dod i ben, fisoedd yn unig ar ôl iddi gael ei gosod.

Roedd y cynllun i fod yn weithredol am 18 mis fel rhan o ymateb Cyngor Sir Ddinbych i Covid-19.

Ond dywedodd cynghorydd lleol bod y newidiadau wedi achosi tagfeydd wrth i gerbydau barcio ar y palmentydd ac atal gweddill y traffig.

Er bod ymgynghoriad wedi dangos cefnogaeth gychwynnol, denodd deiseb oedd yn gwrthwynebu'r cynllun dros 600 llofnod.

Daeth cynllun tebyg ar gyfer tref gyfagos Dinbych i stop achos gwrthwynebiad.

Gosodwyd y system unffordd yn Rhuthun ym mis Tachwedd, ac mae'n cyfeirio'r traffig o amgylch Sgwâr San Pedr i fyny Stryd y Ffynnon ac i lawr Stryd y Farchnad.

Ochr yn ochr â hyn, cafodd y palmentydd eu lledu dros dro gyda chyrbau, potiau blodau a physt er mwyn caniatáu ymbellhau cymdeithasol.

'Edrych yn flêr'

Esboniodd y Cynghorydd Emrys Wynne fod y cyfuniad o folardiau dros dro a'r system unffordd yn achosi tagfeydd a pheryglon. Dywedodd fod dim lle i basio pan fo cerbydau'n stopio i ddanfon nwyddau, a bod yn rhaid i rai barcio dros dro ar balmentydd.

"Dydy system unffordd i fyny Stryd y Ffynnon ddim yn mynd i weithio tra bod 'na orfodaeth i gadw'r cerddwyr a'r cerbydau oddi wrth ei gilydd," meddai.

Roedd eraill yn pryderu bod isadeiledd dros dro "yn edrych yn flêr", yn ôl y cynghorydd.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, sy'n gyfrifol am wastraff, cludiant a'r amgylchedd ar Gyngor Sir Ddinbych, ei fod wedi gwrando ar "bryderon cryf" cynghorwyr y cylch.

Bydd y gwaith o ailosod trefn ddwy ffordd yn cychwyn "cyn bo hir", meddai.

Ychwanegodd y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i ddatblygu ffyrdd o deithio'n llesol yn Rhuthun.

"Dymunwn sicrhau preswylwyr na fydd y penderfyniad i ddod â'r cynllun teithio llesol Covid-19 dros dro i ben yn gynnar yn cael effaith ar y gwaith hwn a bydd y Cyngor yn gweithio gyda phreswylwyr, busnesau ac aelodau lleol," meddai.

Pynciau cysylltiedig