'Gallai cartrefi gofal gau' heb ymrwymiad i ymestyn cyllid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros dri chwarter o drigolion cartrefi gofal wedi derbyn eu brechlyn cyntaf bellach

Fe allai cartrefi gofal orfod cau oni bai bod Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i ymestyn cyllid ychwanegol "hanfodol" ar eu cyfer, yn ôl y corff sy'n cynrychioli'r sector.

Dywedodd Fforwm Gofal Cymru mai dim ond tan ddiwedd mis Mawrth y mae'r "gronfa caledi" wedi'i gwarantu.

Ychwanegodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei bod yn bwysig bod gweinidogion yn parhau i "ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £88m yn ychwanegol wedi'i ddarparu hyd yma a'i bod yn "cwblhau cynlluniau" ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.

'Costau'n cynyddu, incwm yn gostwng'

Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC dywedodd Mary Wimbury, prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru fod y gronfa caledi wedi bod yn "gwbl hanfodol i gadw cartrefi gofal ar agor".

"Yn wahanol i lawer o fusnesau eraill, mae'n rhaid i gartrefi gofal barhau â'u gwaith yn ystod y pandemig ac mae eu costau wedi cynyddu - pethau fel y cynnydd mewn staffio, mesurau rheoli heintiau a hefyd rydyn ni wedi gweld mwy o welyau gwag yn ystod yr argyfwng felly mae'r incwm wedi gostwng," meddai.

"Dim ond gwarant tan ddiwedd mis Mawrth sydd gennym ni ac mae'n gwbl hanfodol os ydym am gadw'r sector yn gynaliadwy mewn unrhyw ffordd ei bod yn parhau y tu hwnt i hynny, oherwydd nid ydym yn mynd i fod wedi gweld diwedd y pandemig erbyn diwedd mis Mawrth."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mary Wimbury bod angen sicrwydd tu hwnt i fis Mawrth

Gofynnwyd i Ms Wimbury beth allai ddigwydd pe bai'r cyllid yn dod i ben.

"Ni allaf weld sut na fyddwn yn gweld cartrefi gofal yn cau'n anffodus," meddai.

"Bydd hynny'n amlwg yn cael effaith ddifrifol nid yn unig ar ddarpariaeth yn y dyfodol, ond hefyd ar y bobl hynny sy'n byw yn y cartrefi hynny sydd yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd.

"Rydych chi'n siarad am bobl hŷn sy'n fregus. Y peth olaf rydych chi eisiau o dan unrhyw amgylchiadau yw iddyn nhw orfod symud, ond yn enwedig yn ystod pandemig."

1,396 o farwolaethau

Croesawodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots yr holl gefnogaeth gan weinidogion hyd yn hyn ond rhybuddiodd "nid ydym drwy'r pandemig hwn eto".

"Bydd yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf wrth i ni fynd trwy gyfnod nesaf y pandemig," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heléna Herklots yn "awyddus i weld cynnydd cyflymach" gyda brechu'r preswylwyr sy'n weddill

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol bu 1,396 o farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru'n gysylltiedig â Covid-19 hyd at 22 Ionawr.

Mae hynny'n cynrychioli 22% o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r feirws.

Yn yr wythnos hyd at yr 22 o Ionawr gwelwyd y nifer uchaf o farwolaethau wythnosol mewn cartrefi gofal ers dechrau'r pandemig.

Fodd bynnag, mae nifer yr achosion positif o Covid-19 sy'n cael eu cofnodi mewn cartrefi gofal yn gostwng, gyda'r ffigwr diweddaraf ar ei lefel isaf ers mis Hydref.

Mae'r sector hefyd wedi croesawu cynlluniau'r llywodraeth i gynnal profion ychwanegol mewn cartrefi gofal i bobl hŷn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cartrefi gofal wedi wynebu cyfnod anodd gyda rheolau llym ar ymweliadau oherwydd y pandmeig

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd gweinidogion fod pigiad bellach wedi ei gynnig i breswylwyr a staff pob cartref gofal i bobl hŷn yr oedd hi'n bosib eu cyrraedd.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 78.2% o drigolion cartrefi gofal yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19.

Dywedodd Ms Herklots ei bod yn "awyddus i weld cynnydd cyflymach" gyda brechu'r preswylwyr sy'n weddill.

'Cydnabod bod pwysau ariannol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith caled a'r ymroddiad sydd gan ein darparwyr gofal cymdeithasol wrth edrych ar ôl preswylwyr cartrefi gofal trwy gydol y pandemig hwn.

"Rydym yn cydnabod bod pwysau ariannol ychwanegol - ar hyn o bryd cefnogir y rhain trwy ein cronfa caledi.

"Mae mwy na £88m wedi'i ddosbarthu hyd yma, gyda'r darpariaethau presennol yn ymestyn hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol.

"Rydyn ni wrthi'n cwblhau'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf."

Politics Wales, BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul ac yna ar iPlayer.