Ymchwilio i farwolaeth dynes 74 ym Mhont-y-pŵl

  • Cyhoeddwyd
Safle ymchwiliad llofruddiaeth ym Mhont-y-pŵl
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion yr heddlu'n cynnal archwiliadau yn y tŷ yn Sebastopol

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth dynes 74 oed a gafodd ei darganfod yn farw ym Mhont-y-pŵl.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dy yn ardal Sebastopol, Pont-y-pŵl, am 09.30 ddydd Sadwrn, 6 Chwefror.

Mae dyn 70 oed o Bont-y-pŵl wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae e yn y ddalfa.

Yn ôl swyddogion yr heddlu, dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd mewn cysylltiad a'r ymchwiliad.

Mae swyddogion yn parhau yn yr ardal, yn bennaf er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach a cheisio lleddfu ofnau pobl yn y gymuned.

Pynciau cysylltiedig