'Mae wedi bod yn sialens dros y flwyddyn dwetha'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dr Alun Edwards

Mae meddyg teulu yn ardal Caerffili wedi bod yn siarad am ba mor heriol yw'r cyfnod presennol i feddygfeydd ar draws y wlad.

Er bod nifer yr achosion o'r feirws wedi dechrau gostwng, fe rybuddiodd Dr Alun Edwards o feddygfa Tŷ Bryn ar raglen Dros Frecwast pa mor bwysig yw hi i bawb barhau i gadw pellter cymdeithasol.

"Mae'n neis i glywed [bod cyfraddau achosion yn gostwng], ond ma' ishe cadw nhw lawr ac mae'n bwysig i ni gadw pellter cymdeithasol a chael y brechiadau," meddai.

Er bod heriau penodol gyda systemau cyfrifiadurol, mae Dr Edwards yn dweud bod y dasg o frechu cleifion yn lleol wedi mynd yn dda, a bod gobaith y bydd ei holl gleifion grŵp 4 a chleifion dros 70 oed wedi'u brechu erbyn canol mis Chwefror.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mr Dr Alun Edwards yn gobeithio y bydd holl gleifion grŵp 4 a chleifion dros 70 oed wedi'u brechu ym mis Chwefror

"Y'n ni wedi bod yn brechu ers am biti tair neu bedair wythnos nawr, ac mae'n mynd yn ok," meddai. "Mae'r cleifion yn ddigon hapus i ddod mewn a ni 'di bod yn symud mlaen."

Un o'r heriau mwyaf i feddygon teulu fel fe yw methu gweld cleifion wyneb yn wyneb ac mae'n gobeithio y bydd modd ail-ddechrau hynny cyn bo hir.

Mae'n bwysig cysylltu

"Mae wedi bod yn sialens dros y flwyddyn dwetha - o'dd rhaid i ni newid beth o'n ni'n neud a gofyn i gleifion ffono," meddai. "Well da fi weld cleifion yn y feddygfa ond dyw e ddim yn addas i neud 'ny ar hyn o bryd.

"Ma' mwyafrif y gwaith yn cael ei 'neud ar y ffôn a trwy e-bost, ambell waith trwy fideo, ond dyw hwnna ddim cweit mor dda ag o'n i'n gobeithio…. Ond ma ffyrdd o neud e. Fel y'n ni'n symud mlaen ni'n gobeithio gweld mwy o bobl yn y feddygfa."

Er bod y dulliau o weld cleifion wedi newid, mae Dr Edwards yn pwysleisio bod meddygfeydd dal ar agor a'i bod hi'n bwysig i unrhyw un sydd â phryderon am eu hiechyd i barhau i gysylltu â'u meddygon teulu.

"Os yw pobl ishe siarad â ni ma' nhw'n gallu… Os y'n nhw'n gwaethygu. ma ishe'u gweld nhw. Mae rhaid i ni weld pobl os oes ishe. Oes, ma ishe cysylltu â'r feddygfa a siarad â'r meddyg a'r nyrs. Ni'n digon hapus i weld nhw."

Pynciau cysylltiedig