'Un porthladd fferi yn Sir Benfro i sicrhau dyfodol'
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai Cymru ganolbwyntio ar gael un porthladd i fferïau yn Sir Benfro yn ogystal â'r prif borthladd yng Nghaergybi, yn ôl rheolwr Porthladd Rosslare yn Iwerddon.
Yn ôl Glen Carr, ychydig dros fis ers gadael yr Undeb Ewropeaidd mae'r nifer o gludwyr nwyddau sy'n defnyddio porthladdoedd Cymru i lawr 50% o gymharu â Ionawr y llynedd.
Mae nifer y nwyddau sy'n cael eu cludo yn uniongyrchol o Iwerddon i'r cyfandir wedi cynyddu 500%.
Mae cludwyr nwyddau Gwyddelig wedi bod yn osgoi defnyddio porthladdoedd Cymru oherwydd y cynnydd yn y gwaith papur sydd ei angen ers Brexit.
Yr ateb i'r de orllewin, yn ôl Glen Carr, fyddai canolbwyntio ar naill ai Abergwaun neu Ddoc Penfro.
Ar hyn o bryd mae dwy daith y dydd i Rosslare o borthladd Abergwaun a dwy daith o borthladd Doc Penfro.
Dim modd buddsoddi mewn dau borthladd
Yn ôl Mr Carr, "mae'n rhaid cael cynnig da i'r cwsmer, ac i fod yn onest, dyw dwy daith y dydd ddim yn ddigon da."
"Rwy'n credu bod yn rhaid gwneud penderfyniad strategol i ddewis un o'r porthladdoedd yna ar gyfer cludo nwyddau roll-on roll-off yn ychwanegol i Gaergybi. Petaent yn canolbwyntio ar y busnes yna byddai yna gyfleoedd eraill i'r porthladd arall mewn sectorau eraill.
"Gallai ddim gweld sut allwch chi fuddsoddi mewn isadeiledd dau leoliad, a mewn dau borthladd."
Mae cwmni John Raymond Transport yn rhan o grŵp trafnidiaeth rhyngwladol Nolan.
Mae Geraint Davies, sy'n gweithio iddynt, yn aelod o Gyngor Cludiant Cymru ac yn dweud bod Nolan wedi bod yn cludo nwyddau yn syth o Iwerddon i'r cyfandir ers Brexit.
"Mae'r gwaith papur a'r biwrocratiaeth yn llafurus ers Brexit ac mae Nolan wedi penderfynu osgoi Prydain a teithio yn syth i Cherbourg neu Dunkirk," meddai.
Ond mae'n anghytuno gyda Glen Carr ynglŷn â'r datrysiad.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Prydain leihau baich y gwaith papur. Petai hynny yn cael ei sortio fe fyddai cwmnïau fel Nolan yn ail-ddechrau defnyddio porthladdoedd Cymru a'r Deyrnas Unedig," yn ôl Geraint Davies.
Ond mae'n rhybuddio, os nad yw'r drefn bresennol yn newid, ei bod hi'n "debygol" y bydd cwmnïau cludiant yn newid yn barhaol ac yn osgoi porthladdoedd Cymru.
Yn ôl Aelod Seneddol Preseli Penfro, Stephen Crabb, mae'r sefyllfa sy'n wynebu porthladdoedd Cymru yn "bryder mawr", ond dywedodd nad yw hi'n glir eto os yw'r problemau yn rhai dros dro.
"Gallwn ni ddim fforddio gweld ein porthladdoedd yn colli mas, dyna'r gwir. Gallwn ni ddim fforddio gweld ein porthladdoedd yn dod yn llai pwysig yn economaidd nac yn llai cystadleuol a dyna pam mae gennym ni frwydr fawr nawr i ennill busnes yn ôl," meddai.
"Rwy'n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Prydain ganfod sut i greu system fwy syml a mwy effeithiol o ran gwaith papur. Byddai hynny yn llai o gur pen i fusnesau sy'n gweithio trwy borthladdoedd Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain: "I gefnogi allforwyr a chludwyr, rydym ni wedi buddsoddi miliynau yn y sector dollau, rydym wedi sefydlu llinellau cymorth ac rydym yn cynnig cefnogaeth i fusnesau trwy ein rhwydwaith o 300 o ymgynghorwyr masnach rhyngwladol."
Er mai Llywodraeth Prydain sydd â'r cyfrifoldeb am ffiniau Prydain ac am dollau ar nwyddau, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am isadeiledd o amgylch y porthladdoedd fel lonydd a meysydd parcio.
'Angen cynllunio tymor hir'
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, yn cytuno bod angen i Lywodraeth Prydain edrych eto ar y tomen o waith papur sydd yn wynebu busnesau er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor i borthladdoedd Cymru.
"Yn ddelfrydol 'dw i isio gweld y ddogfennaeth yn lleihau a'i symleiddio yn sylweddol. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Prydain edrych eto ar y berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd ond gallwn ni fod yn disgwyl am hynny am dipyn o amser."
Yn y cyfamser mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu cynllun i'r dyfodol ac i fuddsoddi yn ein porthladdoedd.
"Hefyd, mae'n amlwg bod angen buddsoddi sylweddol ym mhorthladdoedd Cymru er mwyn manteisio ar y cyfle economaidd gwych sydd yna ond yn y pendraw beth sydd angen ydy cynllunio cynhwysfawr tymor hir," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cludwyr a busnesau sy'n masnachu rhwng Prydain Fawr a'r Undeb Ewropeaidd yn wynebu pwysau biwrocrataidd sylweddol, sy'n cael effaith anghymesur ar borthladdoedd Cymru oherwydd yr opsiynau o ddefnyddio llwybrau amgen - er yn hirach - trwy borthladdoedd Gogledd Iwerddon neu'n uniongyrchol i gyfandir Ewrop.
"Rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i helpu busnesau i lywio a dod yn hyderus gyda phrosesau ffiniau newydd, sydd wedi deillio o'r dewisiadau a wnaeth Llywodraeth y DU ynghylch sut i adael yr UE.
"Rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU beth yw eu cynllun i wyrdroi'r gostyngiad mewn traffig ym mhorthladdoedd Cymru, a sut y byddant yn cefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt.
"Mae porthladdoedd a gweithredwyr fferi Cymru yn Nghaergybi, Doc Penfro a Gwarchodlu Pysgod yn gweithio'n anhygoel o galed i gefnogi eu cwsmeriaid a sicrhau bod masnach trwy borthladdoedd Cymru yn gallu symud yn effeithiol ac yn llyfn.
"Ry'n am i'r drefn o deithio drwy borthladdoedd Cymru i barhau. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi gyda hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020