'Cludwyr Gwyddelig yn osgoi Cymru wedi Brexit'
- Cyhoeddwyd
Mae cludwyr nwyddau Gwyddelig yn osgoi porthladdoedd Cymru er mwyn osgoi biwrocratiaeth Brexit, yn ôl arweinwyr y diwydiant.
Mae "problemau cychwynnol" gyda rheolau allforio newydd yn achosi "straen aruthrol ar staff" yn y tymor byr, yn ôl un cwmni cludo.
Ond mae eraill yn rhybuddio am symud i ffwrdd o Gaergybi, Abergwaun a Doc Penfro yn y tymor hir.
Dywed Gwynedd Shipping eu bod yn gweithredu ar 65% o'u capasiti arferol ond mae pwysau gwaith papur ychwanegol yn heriol ar hyn o bryd.
Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Andrew Kinsella: "Mae'n straen aruthrol ar ein staff o ran prosesu archebion.
"Rydyn ni'n prosesu tua 400 neu 500 o archebion yr wythnos, y gwir amdani yw ein bod ni'n gweithredu ar 65-70% o gapasiti blaenorol," meddai.
"Er ein bod ni'n gweld adferiad yn nifer y cleientiaid ac rydyn ni'n dechrau cyrraedd patrwm gwell o ran cludo nwyddau, rydw i'n dal i feddwl y bydd yn cymryd sawl wythnos i bethau ddychwelyd i normal.
"P'un a yw pethau'n dychwelyd i'r lefelau cyn y Nadolig a cyn Brexit, fe gawn ni weld."
Mae Mr Kinsella o'r farn y bydd canlyniadau tymor hir: "Rwy'n credu y gallwch chi eisoes weld y newid o ran nifer y teithiau.
"Rwy'n credu eich bod chi'n gweld symudiad i ffwrdd o Gaergybi yn enwedig o ran traffig y tu allan i'r oriau brig.
"Dwi'n credu yn y tymor hir, bydd hyfywedd yr holl wasanaethau hyn yn rhywbeth y bydd y gwasanaethau fferi yn craffu arno."
Yr wythnos hon, symudodd Stena Line ei llong newydd i lwybr Rosslare i Cherbourg, y bwriad oedd hwylio llwybr Belffast i Lerpwl.
Dywedodd y cwmni "oherwydd y newid presennol sy'n gysylltiedig â Brexit ar gyfer llwybrau uniongyrchol a galw cynyddol gan gwsmeriaid, mae Stena Line wedi penderfynu defnyddio'r Stena Embla dros dro ar Rosslare-Cherbourg".
Yn Rosslare Europort, mae busnes yn ffynnu yn ôl ei reolwr cyffredinol, Glen Carr.
"Rydyn ni wedi gweld galw digynsail yn ystod pythefnos cyntaf masnachu o'i gymharu â'r llynedd," meddai Mr Carr.
"Ar ein llwybrau Ewropeaidd mae cynnydd o 500% yn nifer y nwyddau sy'n mynd trwy'r porthladd o'i gymharu â'r llynedd.
"18 mis yn ôl byddem wedi cael tair taith y dydd yn uniongyrchol i dir mawr Ewrop o Rosslare Europort, heddiw mae gennym ni 15."
Dywed Mr Carr fod ei gwsmeriaid am osgoi'r DU oherwydd Brexit.
"Rwy'n credu bod hynny'n dyst i'r galw yn enwedig gan ein hallforwyr a'n mewnforwyr ar ynys Iwerddon, a'r angen i osgoi'r DU yn anffodus oherwydd Brexit i fasnachu'n uniongyrchol gyda'r UE."
Mae Mr Carr yn credu nad newid tymor byr yw hyn.
Dywed fod penderfyniadau gan gwmnïau fferi a busnesau sy'n masnachu gyda'r UE i ailgyfeirio cludo nwyddau wedi'u gwneud yn seiliedig ar ddadansoddiad o'r farchnad.
"Nid oedd yr achos busnes dros y gwasanaethau ychwanegol allan o Rosslare, yn seiliedig ar bythefnos gyntaf eleni.
"Roeddent yn seiliedig ar ddadansoddiad o'r farchnad a sgyrsiau gyda'n hallforwyr a'n mewnforwyr a oedd yn newid cyfeiriad.
"Felly mae switsh a rydym yn rhagweld y bydd gwasanaethau'n cael eu cynnal allan o Rosslare."
'Problemau cychwynnol'
Mae gweinidogion Llywodraeth y DU wedi gwrthod pryderon ynghylch hyfywedd tymor hir porthladdoedd Cymru.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yr wythnos hon, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David TC Davies AS, fod cyn-gydweithwyr iddo yn y diwydiant cludo yn cyfeirio at broblemau fel rhai "cychwynnol".
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, bod "peth tystiolaeth nad yw pethau'n edrych o reidrwydd, yn llwm yn barhaol".
"Mae'n un o'r meysydd hynny lle mae'n rhaid i ni gadw llygad barcud ond credaf mewn gobaith ei fod yn dip dros dro yn y graff ac nid effaith barhaol."
Ond mae'r arbenigwr trafnidiaeth, yr Athro Stuart Cole o Brifysgol De Cymru, yn credu mai oedi Brexit fydd y cymhelliant yr oedd ei angen ar gwmnïau Gwyddelig i newid yn barhaol i fasnachu'n uniongyrchol â thir mawr Ewrop.
Dywed yr Athro Cole fod yr UE wedi bod eisiau lleihau tagfeydd a llygredd mewn rhannau o Ewrop, ac un ateb oedd symud cludo nwyddau ar y môr yn hytrach na'r ffordd.
"Hyd yn hyn nid oedd unrhyw gymhellion i gludwyr Gwyddelig newid eu llwybr," meddai.
"Gweithiodd y llwybr yn berffaith, roedd amser teithio rhagweladwy ac mae hynny'n bwysig ar gyfer bwyd a chydrannau sy'n mynd i ffatrïoedd.
"Roedd y newid hwnnw'n gofyn am newid sylweddol, a dyna beth sydd yna nawr."
'Rhy fuan i wybod'
Mae Dr Edward Thomas Jones, darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, yn credu ei bod hi'n rhy fuan i ragweld unrhyw newidiadau tymor hwy.
"Oherwydd bod busnesau wedi pentyrru cyn y Nadolig gan ragweld Brexit, mae llai o ddefnydd o'r porthladd ers Brexit wrth gwrs.
"Ar ben hynny, mae coronafeirws yn golygu bod llai o dwristiaid yn mynd ar wyliau i Iwerddon.
"Bydd gennym well syniad o'r dyfodol o'r porthladd mewn chwe mis pan fydd y busnesau hyn sydd wedi pentyrru yn dechrau prynu eto.
"Gobeithio erbyn ail hanner y flwyddyn y bydd coronafeirws wedi'i ddatrys a bydd twristiaid unwaith eto'n gallu teithio yn ôl ac ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020