Dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth menyw 74 oed
- Cyhoeddwyd

Swyddogion Heddlu Gwent yn cynnal archwiliadau yn y tŷ yn Sebastopol dros y penwythnos
Mae dyn 70 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio menyw yn Nhorfaen.
Cafwyd hyd i Linda Maggs, 74, yn "anymatebol" mewn eiddo ym mhentref Sebastopol, ger Pont-y-Pŵl tua 09:20 fore Sadwrn, ac fe gadarnhaodd parafeddygon ei bod wedi marw.
Cafodd dyn o ardal Cwmbrân ei gyhuddo o lofruddiaeth nos Sul.
Mae disgwyl iddo fynd o fynd o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.
Mae Heddlu Gwent yn parhau â'u hymholiadau i'r achos ac yn apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2021