Chwe Gwlad: Cymru heb bedwar chwaraewr cyn herio'r Alban
- Cyhoeddwyd
Fe fydd tîm rygbi Cymru heb bedwar o chwaraewyr ddechreuodd y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ar gyfer y gêm nesaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anafiadau.
Daeth cadarnhad bod y blaenasgellwr Dan Lydiate wedi cael anaf difrifol i'w ben-glin pan aeth o'r cae yn gynnar yn yr hanner cyntaf ddydd Sul.
Mae profion ar yr anaf yn parhau ond mae pryder y gall fethu gweddill y gystadleuaeth a'r tymor.
Ni fydd y mewnwr Tomos Williams ar gael ar gyfer y daith i'r Alban chwaith yn dilyn anaf i'w goes.
Y ddau chwaraewr arall ydy'r canolwr Johnny Williams a'r asgellwr Hallam Amos - yn dilyn anafiadau pen i'r ddau.
Fe wnaeth Cymru lwyddo i sicrhau buddugoliaeth dros 14 dyn Iwerddon o 21-16 brynhawn Sul.
Ond mae'r hyfforddwr Wayne Pivac wedi cyfaddef bod sawl anaf o fewn y garfan wedi tynnu'r sglein oddi ar y fuddugoliaeth.
Mae canolwyr George North a Nick Tompkins hefyd wedi cael man anafiadau.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru y byddai unrhyw ychwanegiadau i'r garfan yn cael eu cyhoeddi yn y man.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2021