Brexit yn gur pen i fewnforwyr bwyd a diod o'r cyfandir

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Siop Gwin Dylanwad

Mae busnesau bach sy'n mewnforio bwyd a diod o'r cyfandir yn dweud eu bod yn poeni am ddyfodol eu busnes oherwydd y costau a'r biwrocratiaeth ychwanegol ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae archebion yn fwy costus ac yn cymryd hirach i gyrraedd ers dechrau'r flwyddyn, medd perchennog siop Gwin Dylanwad yn Nolgellau.

Ac mae perchennog cadwyn siopau Ultracomida yn y gorllewin, sy'n arbenigo mewn bwyd o Sbaen, yn dweud iddi dreulio wyth awr yn llenwi ffurflenni ar gyfer un archeb gwin.

Dywed Llywodraeth y DU y bydd pethau'n gwella wrth i bobl ddod i arfer â'r drefn newydd.

'Mynydd o waith papur'

Mae'r rheolau newydd ar gyfer mewnforio bwyd o'r Undeb Ewropeaidd "bron yn amhosib i'w deall", medd perchennog Ultrcomida, Shumana Palit, ac yn "hollol chaotic ar hyn o bryd".

"Da ni'n boddi," ychwanegodd. "Mae 'na fynydd o waith papur i'w wneud.

"Mae 'na gost wrth gwrs, ond hefyd mae o jysd yn gymhleth.

"Mae'n amhosib i ddeall, a does dim help o gwbl."

Mae cwmni Gwin Dylanwad yn Nolgellau yn mewnforio gwin o Ewrop ers bron i 20 mlynedd.

Ond ers i'r rheolau newydd ddod i rym fis Ionawr, mae wedi mynd yn llawer anoddach ac yn lot fwy costus, yn ôl y perchennog, Dylan Rowlands.

"Y trafferth 'da ni 'di cael yn barod yw'r amser mae orders yn eu cymryd i gyrraedd, ond yn fwy pwysig mae costau wedi mynd i fyny," dywedodd.

"Dwi newydd rhoi order fewn i Ffrainc neithiwr. Mae costau transport wedi mynd fyny 50%, ond mae cost y gwaith papur, ac mae 'na lot mwy ohono, wedi dyblu ers y llynedd ar yr un order o Ffrainc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen amser i ddod i arfer â system newydd, medd David Davies

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu y bydd pethau yn gwella ag amser.

"Yn amlwg ar hyn o bryd mae gennym ni system newydd," medd David Davies, Gweinidog yn Swyddfa Cymru.

"Mewn ychydig o wythnosau fyswn i'n disgwyl i fwy o bobl gael yr expertise, felly fe fyddwn ni'n gweld y gost a'r amser yn mynd i lawr."

Dyw Shumana Palit ddim mor hyderus, ac mae hi'n dweud y dylai rhywun o'r llywodraeth geisio llenwi'r ffurflenni efo hi "achos mae'n absolutely amhosib".

'Anos i gwmnïau bach'

Mae'r AS Plaid Cymru Ben Lake yn poeni am ddyfodol busnesau yn ei etholaeth, fel Ultracomida, os na fydd yna gymorth gan y llywodraeth.

"Mae o i weld bod y system yn anodd i bawb," meddai, "ond mae'r cwmnïau mwy yn meddu ar arbenigedd cyfreithiol ar allforio, adrannau cyfan falla sy'n gallu gwario'r amser sylweddol sydd ei angen i lenwi'r ffurflenni ac ati.

"Dyw o ddim yr un peth i gwmnïau bach. Mae treulio wyth awr i lenwi un datganiad ar gyfer un shipment yn anghredadwy a dyw o ddim yn gynaliadwy ar gyfer busnesau bach."

Mae Dylan Rowlands yn poeni y bydd rheolau newydd ddaw i rym ym mis Gorffennaf yn ei gwneud hi'n anoddach os nad yn amhosib iddyn nhw brynu gan winllannoedd bach ar y cyfandir.

Mae'n esbonio y bydd angen ffurflen newydd ar gyfer pob gwin gwahanol sy'n cael ei archebu gan winllan, gyda chost o 100 Ewro bob tro.

Mae'n poeni y bydd hyn yn golygu y bydd "costau yn cynyddu gormod i ni gario mlaen i mewnforio gan y teulu bach yma".

Pryder sy'n cael ei rannu gan Shumana Palit, sy'n credu y bydd yna lai o ddewis i gwsmeriaid, ac o ganlyniad y bydd gwerth cwmnïau unigryw fel Ultracomida a Gwin Dylanwad yn cael ei golli.

"Beth sy'n digwydd i'r bobl sy'n gwerthu pethau diddorol, newydd? 'Da chi'n mynd i golli hwnna.

"'Da chi'n mynd i gael rhyw fath o homogenous offering ar y farchnad, a wedyn beth yw pwynt y stryd fawr?"