Galw i sefydlu comisiwn i warchod hen enwau Llydaw

  • Cyhoeddwyd
Graffeg arwyddion dwyieithog yn Llydaw

Mae 'na alw am sefydlu comisiwn yn Llydaw i warchod enwau lleoedd sydd mewn perygl o gael eu colli wrth i systemau rhyngrwyd gael eu huwchraddio yno.

O'r harddwch i'r hanes a'r cysylltiadau Celtaidd, mae sawl cymhariaeth rhwng Cymru a Llydaw - a rŵan mae'n ymddangos bod 'na bryderon tebyg am golli hen enwau, sy'n gymaint yn rhan o dreftadaeth leol.

Wrth i gyswllt ffeibr optig newydd gael ei sefydlu yn Llydaw, mae 'na symud at ddefnyddio enwau llefydd yn Ffrangeg yn unig i symleiddio pethau o ran systemau lloeren GPS.

Mae ymgyrchwyr yn galw am weithredu ar lefel genedlaethol i ddiogelu'r enwau Llydaweg hanesyddol.

Ymhlith yr enghreifftiau mae'r gair Llydaweg am groesffordd, 'Kroaz-hent', yn newid i 'Croissant', a 'Neïz Vran', sef Nyth y Fran, yn newid i Stryd y Twyni, Stryd y Gwynt neu Stryd y Pwynt yn Ffrangeg.

'Enghreifftiau twp'

Mae Derec Stockley yn byw y rhan fwyaf o'r flwyddyn yn Kerlouan yn Llydaw ac mae'n tristáu wrth weld yr enwau hanesyddol yn diflannu.

Meddai: "Mae llawer o'r enwau yn hen iawn ac wedi dod draw gyda'r Celtiaid oedd yn dianc oddi wrth y Sacsoniaid i Lydaw o'r chweched ganrif ymlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n tristáu Derec Stockley

"Mae 'na rai enghreifftiau twp o enwau'n cael eu newid - fel 'Kroaz-hent', sef croesffordd yn Llydaweg, yn cael ei newid i 'croissant' yn Ffrangeg.

"Maen nhw'n Ffrangegeiddio'r Lydaweg. 'Croissant' yw rhywbeth 'da chi'n fwyta i frecwast!

"Yma yn Kerlouan, mae enwau Llydaweg megis Neïz Vran (Nyth y Frân) yn newid yn Route de la Pointe, Route des Vents a Route des Dunes.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Route de la Pointe yw un o'r cyfieithiadau Ffrangeg ar gyfer Neïz Vran, sy'n golygu Nyth Bran

"Un o'r enghreifftiau gwaethaf yma oedd 'Route du bois de Pauline' - a Pauline wedi bod yn butain nid anenwog! - yn lle enwau traddodiadol megis An Inizi (Yr Ynysoedd), Kergourves, Cleusmeur (Clawdd mawr) a Kersavater.

"Mae pobl yn gwrthwynebu'r newid i'r graddau bod rhai pobl ifanc wedi paentio dros yr arwyddion uniaith Ffrangeg mewn protest yn erbyn y peth. Felly mae teimladau pobl yn gryf iawn bod nhw eisiau gwarchod eu treftadaeth ieithyddol."

Miloedd o gynghorau lleol yn gyfrifol

Mae'r penderfyniadau am enwau lleoedd a strydoedd yn cael eu gwneud ar lefel lleol yn Llydaw ar hyn o bryd. Mae Derec Stockley ymhlith sawl un sy'n galw am edrych ar y broses o warchod enwau ar lefel genedlaethol.

"Beth sy'n gymhleth yw bod cyfrifoldeb am enwau strydoedd ac ardaloedd yn nwylo'r cynghorau lleol. Felly mewn gwirionedd ar hyn o bryd mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r broblem â phob cyngor unigol, sy'n golygu miloedd ohonyn nhw dros Lydaw i gyd.

"Falle taw'r ffordd ymlaen yw i ranbarth Llydaw i sefydlu rhyw fath o gomisiwn fel bod modd edrych ar y peth yn genedlaethol yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae dadl yng Nghymru ynghylch colli enwau Cymraeg - dyma enw eiddo ym Mae Trearddur

Nes adre', mae 'na bryderon tebyg am enwau hanesyddol yng Nghymru - ond methu wnaeth ymgais Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Dr Dai Lloyd, bedair blynedd yn ôl i greu deddf i'w gwarchod.

Ychwanegodd Derec Stockley: "Dwi'n credu bod Cymru ar y blaen i'r hyn sy'n digwydd yn Llydaw ond mae yna'n dal amwysedd.

"Mae llawer o enghreifftiau o newid enwau i'r Saesneg gan unigolion yng Nghymru, wrth gwrs.

"Mae'n rhywbeth mae'n rhaid i ni, ar lefel Gymreig a Llydewig, fynd i'r afael ag e. Mae'n rhan o'n cefndir, ein treftadaeth a'n hanes ni."

Brwydr hir i'w cael yn y lle cyntaf

Yn gyn olygydd cylchgrawn Cymdeithas Cymru-Llydaw, mae'r Dr Rhisiart Hincks, o Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, yn rhannu'r pryderon am yr hen enwau Llydaweg - ond hefyd yn ei weld yn gyfle i godi ymwybyddiaeth.

Dywedodd: "Dwi'n siomedig iawn o glywed bod hyn yn digwydd oherwydd mae wedi bod yn frwydr hir i geisio cael enwau Llydaweg ar arwyddion.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid goresgyn difaterwch os am warchod yr enwau Llydaweg, medd y Dr Rhisiart Hincks

"Es i i Lydaw gynta' yn y saithdegau a doedd dim arwyddion Llydaweg ar y cyfryw bryd hynny.

"Gobeithio nawr bydd pobl yn teimlo'n gryf yn ei gylch e. Mae difaterwch yn elyn mawr yn y gwledydd Celtaidd - yng Nghymru a bob un o'r gwledydd Celtaidd mewn gwirionedd. Dyna'r broblem fwya' sydd gennon ni."

Dydy hon ddim yr enghraifft gynta' o ddatblygiadau'r we yn codi cwestiwn am iaith leiafrifol, ond dadl sawl un ydy mai'r dechnoleg sydd angen addasu ac nid yr iaith.

Pynciau cysylltiedig