Galw am atal ymgynghori ar gau ysgolion am y tro

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd Mynydd-y-Garreg
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir Gâr yn ymgynghori ar gynlluniau i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg ar hyn o bryd

Mae aelod o'r Senedd wedi galw am ohirio bob proses ymgynghori dros gau ysgolion yng Nghymru yn ystod y pandemig.

Mae Helen Mary Jones o Blaid Cymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn galw arni i ymyrryd er mwyn atal yr ymgynghoriad dros ddyfodol Ysgol Mynydd-y-Garreg yn Sir Gâr ac ysgolion eraill o gwmpas Cymru.

Daw hynny er taw gweinyddiaeth Plaid Cymru/Annibynnol wnaeth roi sêl bendith i'r broses ymgynghori ym Mynydd-y-Garreg ym mis Rhagfyr 2020.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio llefydd mewn ysgolion.

'Gohirio bob proses ar lefel genedlaethol'

Dywedodd Ms Jones, yr aelod rhanbarthol dros Orllewin a Chanolbarth Cymru: "Dwi'n credu dylsen ni ohirio bob proses ar lefel genedlaethol, ond dwi'n deall o safbwynt y cyngor gan eu bod nhw wedi dechrau'r broses bod hi'n anodd iawn iddyn nhw stopio a dyna pam dwi wedi gofyn i'r gweinidog i wneud, fel bod y cyngor yn siŵr bod nhw'n gwneud y peth iawn."

Mae Cyngor Sir Gâr yn ymgynghori ar gynlluniau i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg a symud y disgyblion i Ysgol Gwenllian yng Nghydweli.

Fe drechwyd mesur gan y grŵp Llafur yn y cyngor yr wythnos ddiwethaf - yn galw am ohirio'r broses - gan welliant oedd yn caniatáu i'r broses ymgynghori barhau.

Yn ôl Cynghorydd Rob James, arweinydd y grŵp Llafur, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod gan y cyngor yr hawl i atal y broses ymgynghori, heb ymyrraeth y gweinidog.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Mary Jones eisiau i'r Gweinidog Addysg atal pob ymgynghoriad ar gau ysgolion

Yn ôl Cyngor Sir Gâr maen nhw wedi cynnal y broses yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ond doedden nhw ddim am ymateb i sylwadau Ms Jones.

Maen nhw wedi galw ar bobl i ymateb i'r ymgynghoriad sydd yn cau ar 21 Chwefror.

Doedd y cyngor ddim yn fodlon gwneud sylw pellach am fod y broses ymgynghori'n parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio llefydd mewn ysgolion.

"Mae hawl gan awdurdodau lleol i gynnal ymgynghoriadau yn ystod y pandemig.

"Ond mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio ag anghenion eraill er mwyn sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael y cyfle i leisio eu barn."