Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-1 Coventry
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth arall i'r Adar Gleision ddydd Sadwrn a hynny yn erbyn Coventry yn Y Bencampwriaeth.
Fe wnaeth yr ymwelwyr ddechrau yn gryf ond buan iawn y cydiodd yr Adar Gleision yn y gêm.
Daeth y gôl gyntaf i Kieffer Moore ar yr hanner awr. Derbyniodd y bêl gan Josh Murphy yn y blwch cosbi, fe dwyllodd yr amddiffynnwr gan droi ac ergydio'r bêl i gefn y rhwyd.
O fewn saith munud daeth ail gôl i Moore gydag ergyd droed dde i ganol y gôl, a daeth yn agos i gael y drydedd cyn hanner amser.
Daeth trydedd gôl ym munud gyntaf yr ail hanner. Cymerodd Perry Ng gic gosb yn sydyn gan ryddhau Josh Murphy i roi ergyd troed dde a sgorio trydedd gôl i'r tim cartref.
Ond nid oedd Coventry wedi ildio'n llwyr ac fe lwyddon nhw i daro'r bar yn fuan yn yr ail hanner. Yn wobr am eu dyfalbarhad roedd yna gôl i Dominic Hyam ar ôl 81 munud.
Mae'r fuddugoliaeth yn codi Caerdydd i'r seithfed safle, ac yn golygu bod yr Adar Gleision yn closio at y safleoedd ail gyfle.
Doedd timau Abertawe, Casnewydd na Wrecsam ddim yn chwarae ddydd Sadwrn oherwydd y tywydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021