'Tlodi yn gyfrifol am farwolaethau Covid y cymoedd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhondda Cynon TafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhondda Cynon Taf yn un o'r ardaloedd gyda'r nifer uchaf o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr

"Gellid bod wedi rhagweld cyfraddau marwolaeth uchel cymoedd y De," medd un cyfarwyddwr bwrdd iechyd ac mae'n dweud bod yna resymau sy'n gyfrifol am hynny.

"Mae'n ymwneud yn sylfaenol â thlodi ac anghydraddoldebau iechyd," medd Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae'r gyfradd marwolaeth yn Rhondda Cynon Taf yn 340.3 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth - y drydedd gyfradd uchaf yn y DU.

Dywedodd Dr Nnoaham: "Pe bai rhywun wedi tynnu unrhyw un ohonom naill ochr ym mis Chwefror 2020 a gofyn i ni neidio blwyddyn mewn amser gan asesu pa gymunedau a fyddai wedi cael yr ergyd fwyaf byddwn wedi darogan yr hyn rydyn ni'n ei weld yn awr. "

Mae dwy o'r cyfraddau marwolaeth uchaf yng Nghymru yn ardal awdurdod Rhondda Cynon Taf.

Mae 53 marwolaeth wedi bod yng ngorllewin Tonyrefail, sef 515.7 o farwolaethau fesul 100,000, ac ym Mhenrhiw-ceibr, bu 26 marwolaeth - cyfradd o 436.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Y tu hwnt i'r ffigyrau, mae cymunedau'n galaru.

Dywed y Parchedig Peter Lewis, ficer yn Abercynon, ei fod yn cynnal tua 10 angladd cysylltiedig â Covid yr wythnos ar frig y pandemig ond nawr bod y nifer yn nes at dri yr wythnos.

'Cymuned mewn colled'

Eleni mae plant ysgol wedi cael eu gwahodd i wneud calonnau pren ar ddiwrnod San Ffolant a'u hongian ar goeden goffa yn Eglwys Sant Gwynno yn Abercynon.

Dywedodd y Parchedig Lewis nad yw plant wedi cael llawer o gyswllt â'u neiniau a'u teidiau na'u rhieni sydd wedi marw o coronafeirws.

Mae'n gobeithio bod y goeden San Ffolant yn "gyfraniad bach i nodi ein bod ni'n gymuned mewn colled".

Mae'r clerigwyr yn yr ardal yn cael hyfforddiant i ddelio â'r trawma a'r galar y mae disgwyl iddynt eu profi yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Mae cymoedd y de yn nodedig am eu hysbryd cymunedol ac yn ôl Peter Lewis, mae hyn yn gwneud y gymuned yn fwy gwydn.

Mae un cynllun rhannu bwyd yng Nghwm Rhondda sy'n cael ei weithredu o swyddfa Plaid Cymru er mwyn ailddosbarthu bwyd gwastraff o archfarchnadoedd, wedi mynd o nerth i nerth ac yn cefnogi'r rhai sy'n delio â'r pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr fel Janet Slade Jones wedi bod yn sicrhau bod gan gymdogion ddigon o fwyd

Mae Janet Slade Jones, un o'r gwirfoddolwyr, wedi bod yn helpu ei chymdogion ers mis Mawrth ond dywed bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ofnadwy.

"Rydw i wedi bod mewn mwy na deg angladd eleni", meddai.

Yn ôl y gwirfoddolwyr nid gor-ddweud yw bod pawb yn y Rhondda yn adnabod rhywun sydd wedi marw o'r feirws.

'Gwirioneddol frawychus'

Un arall sy'n helpu'r cynllun rhannu bwyd yw Trish Denning, athrawes wedi ymddeol.

"Mae'n wirioneddol frawychus. Llawer o'r amser rwy' mewn sioc wrth edrych ar yr ystadegau ond rydych chi'n ymwybodol bod Rhondda Cynon Taf yn draddodiadol yn ardal lle bu mwyngloddio. Mae gennym ni lawer o faterion iechyd."

Mae Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn credu mai'r broblem sylfaenol yw tlodi.

"Rydyn ni'n ymwybodol o dlodi ac anghydraddoldebau iechyd ers sawl blwyddyn. Y cwestiwn yw beth rydyn ni wedi'i wneud? I ba raddau rydyn ni wedi llwyddo i gael gwared ar y gwendidau hynny?"

'Dim digon wedi ei wneud'

Yn ôl Dr Nnoaham, mae ymdrechion blaenorol i fynd i'r afael â thlodi a'r anghydraddoldebau iechyd cysylltiedig wedi bod yn "symbolaidd" ac nid oes digon wedi cael ei wneud i ddatrys y problemau.

"Am nifer o flynyddoedd rydym wedi siarad am anghydraddoldebau iechyd ac rydym wedi siarad am y ffaith bod llawer o dlodi yng nghymoedd Cymru ond nid ydym wedi gwneud digon.

"Mae ein mesurau wedi bod yn symbolaidd. Mae'n rhaid i ni wneud mwy, mae cymaint o frys nawr fel na allwn ni barhau i siarad am anghydraddoldebau iechyd fel petaen nhw'n rhywbeth academaidd."

Mae'r Aelod o Senedd Cymru yn y Rhondda, Leanne Wood o Blaid Cymru, yn cytuno ac mae'n dweud hefyd y dylai swyddi fod yn flaenoriaeth.

Dywedodd Ms Wood: "Mae nifer y bobl sydd â swyddi da yn yr etholaeth hon yn llawer rhy isel. Nid yw Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol wedi rhoi digon o sylw i creu swyddi ac mae hynny'n rhywbeth sydd yn gorfod newid".

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "yr haint wedi cael effaith ar bob agwedd o'n bywydau a bod pob ymdrech wedi'i wneud i ymateb i'r pandemig er mwyn diogelu iechyd, lles a bywoliaeth y cyhoedd.

"Byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i gefnogi pawb yng Nghymru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf."

Bydd modd gweld mwy ar y stori hon ar Politics Wales am 10 o'r gloch fore Sul, 14 Chwefror.