Cofio'r cyn AS a'r hanesydd Dr Hywel Francis
- Cyhoeddwyd
Yn 74 oed bu farw Dr Hywel Francis - cyn-Aelod Seneddol Llafur Aberafan rhwng 2001 a 2015.
Rhwng 2010 a 2015 roedd yn gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol a bu hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, gan feithrin cysylltiadau agos gyda'r Cynulliad, neu Senedd Cymru erbyn hyn.
Bu hefyd yn gadeirydd grwpiau trawsbleidiol ar archifau a Syndrom Down.
Roedd Dr David Hywel Francis hefyd yn hanesydd blaenllaw.
Wedi iddo raddio a chael doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe bu'n gweithio fel athro yn adran Addysg Barhaol Prifysgol Abertawe lle sefydlodd Prifysgol Gymunedol y Cymoedd, Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archif Maes Glo De Cymru - sefydliad a ail-enwyd yn Archifau Richard Burton.
Bu Hywel Francis yn hynod weithgar ym mywyd gwleidyddol Cymru fel Cadeirydd Cyngres Cymru i Gefnogi'r Cymunedau Glofaol, ac ef oedd trefnydd cenedlaethol Ymgyrch Ie Dros Gymru yn 1997.
Ef hefyd a sefydlodd Sefydliad Bevan, dolen allanol.
Hanesydd blaenllaw
Fel hanesydd, cyhoeddodd yn helaeth ar gymunedau glofaol De Cymru, gan gynnwys The Fed: a History of the South Wales Miners in the Twentieth Century (Caerdydd, 1980) (cyd-awdur gyda'r Athro Dai Smith); Miners Against Fascism: Wales and the Spanish Civil War (Caerdydd, 1984) a History on Our Side: Wales and the Miners Strike of 1984-85.
Roedd Dr Hywel Francis yn fab i Dai Francis, dolen allanol a oedd yn swyddog gweithgar gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Ne Cymru drwy gydol anghydfod diwydiannol y 1970au.
Roedd yn gyfrannwr cyson i raglenni Cymraeg Radio Cymru ac S4C a bu'n aelod o Orsedd y Beirdd ers 1986.
Yn 2013 pan ddewisodd Dr Francis beidio sefyll mewn etholiad seneddol eto dywedodd ei bod wedi bod yn "anrhydedd anferthol cael gweithio ar ran yr etholwyr yn Aberafan".
Teyrngedau
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn tristáu o glywed y newyddion am Dr Hywel Francis.
"Bydd ei werthoedd yn parhau ac mae ei gyfrolau yn nodi brwydr y glowyr yn erbyn Thatcheriaeth a'r frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen yn hynod bwysig.
"Gydol ei fywyd dangosodd rym y syniad o solidariaeth," ychwanegodd.
Dywedodd Nia Griffith AS Llanelli a Llefarydd Llafur ar Gymru ei bod hithau hefyd yn drist o golli un a oedd wedi cyfrannu gymaint i nifer o achosion ac yn ôl Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Nick Thomas-Symonds AS roedd Dr Francis "yn berson tosturiol oedd yn gwneud bywydau eraill yn well".
Dywedodd AS Llafur Caerffili, Wayne David, ei fod yn cydymdeimlo â'r teulu a'i fod yn "hanesydd ac addysgwr hynod o alluog".
Yn 2004 fe gyflwynodd Dr Francis ar y cyd â'r diweddar Arglwydd Jack Ashley Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004 - deddf sy'n cael ei chyfeirio ati yn aml fel Mesur Sam - er cof am ei fab Sam Francis a fu farw yn 16 oed yn 1997.
Wedi hynny fe sefydlodd Dr Francis y Grŵp Gofalwyr Seneddol a bu'n gadeirydd ar y grŵp.
Ar ran y teulu dywedodd ei fab Dafydd Francis ddydd Sul: "Ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cysylltu gyda ni i gydymdeimlo.
"Ni hefyd yn ddiolchgar iawn i'r nyrsys a doctoriaid yn Nhreforys fu'n gofalu am fy nhad mewn cyfnod anodd iawn i'r gwasanaeth iechyd oherwydd Covid. Ni'n llawn canmoliaeth iddyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2013