Storm Dennis: Sut mae bywyd flwyddyn wedi'r dilyw?
- Cyhoeddwyd
Flwyddyn yn ôl, cafodd cymunedau ledled cymoedd y de eu dinistrio gan lifogydd a achoswyd gan Storm Dennis.
Mae BBC Cymru wedi dychwelyd i siarad â rhai o'r bobl a ddioddefodd y llynedd.
'O fy Nuw, mae'r afon mor uchel eto'
Yn ôl Vanessa Pitman a Paul Cooper, o Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf, mae'r flwyddyn ar ôl i'r llifogydd fod yn "daith emosiynol".
Pan dorrodd Afon Taf ei glannau, fe gododd y dŵr cymaint nes ei fod yn cyrraedd ail lawr eu cartref.
Cafodd eu gardd ei llenwi gydag eiddo gwerthfawr eu cymdogion a oedd wedi'i sgubo yno wrth i'r dŵr godi.
Collodd Ms Pitman a Mr Cooper eu swyddi ychydig ar ôl y llifogydd, a gyda'r cyfnod clo cenedlaethol wedi cael ei gyflwyno bum wythnos yn ddiweddarach, dywedodd y cwpl fod eu blwyddyn wedi mynd o "ddrwg i waeth".
Fodd bynnag, fe lwyddodd y ddau i ddefnyddio'r amser hwnnw i atgyweirio eu cartref.
Dywedodd Ms Pitman: "Rydyn ni'n eithaf lwcus oherwydd dwi'n nabod llawer sydd dal ddim yn byw yn eu tai, am nad oedd ganddyn nhw yswiriant.
"Mae'r tŷ yn hyfryd 'da ni nawr, ond mae'n hollol amlwg pan mae'n bwrw glaw yn drwm iawn mai'r peth cyntaf rydych chi'n meddwl amdano yw'r dŵr.
"O'n hystafell wely, sydd ar law ucha'r tŷ, gallwch weld yr afon, a phan gawson ni rybuddion llifogydd wedi hynny y peth cyntaf oedd yn croesi'ch meddwl oedd: 'O fy Nuw, mae'r afon mor uchel eto.'
"Mae wedi bod yn anodd, ond rwy'n ceisio peidio â meddwl amdano. Rwy'n meddwl: 'mae gennym ni gartref newydd braf a gobeithio na fydd yn digwydd eto'."
'Roedd y stryd fel afon'
Fe effeithiodd y llifogydd fis Chwefror y llynedd ar lawer o gymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys Nantgarw, Trehafod, Aberpennar a Pentre, lle mae Mair Hughes yn byw.
"Roedd y glaw mor drwm," meddai. "Roedden ni'n edrych allan y ffenestr ac roedd y stryd yn union fel afon. Deffrais just mewn pryd, fel oedd e'n dod i mewn.
"Daeth i mewn i'r ystafell fyw o gefn y tŷ ac roedd yn dod i mewn trwy'r pen blaen hefyd.
"Fe gawson ni lwyth o dyweli a dillad gwely a cheisio ei atal orau ag y gallen ni, ond doedden ni ddim yn gallu ei rwystro roedd grym y dŵr yn ormod.
"Roeddwn wedi dychryn ac yn flin oherwydd nid ein bai ni oedd hynny. Allwn ni ddim credu ei fod yn digwydd."
Yn dilyn storm fawr arall ym mis Mehefin daeth rhagor o lifogydd i Pentre.
Aeth dŵr i mewn i gartref Mair eto ac mae hi'n dal i aros i gael carped newydd ar ei grisiau.
Mae ei hyswiriant tŷ wedi codi'n sylweddol. Bellach mae ganddi giât llifogydd wrth ei drws ffrynt.
Ar y stryd y tu allan mae hi'n cadw bagiau tywod rhag ofn y daw storm arall.
"Rydyn ni'n cerdded yn ôl ac ymlaen yn y tu blaen a'r cefn, yn edrych ar ein draeniau, yn enwedig y prif ddraen y tu allan.
"Rydych chi'n byw mewn ofn gwirioneddol, ac yn poeni o hyd. Yw'n mynd i ddigwydd eto?"
'Ry ni'n byw mewn gobaith'
Oriau mân y bore oedd hi pan gafodd Emma Jamal ei deffro gan sŵn neges gan ffrind.
Roedd yn gofyn a oedd angen iddi fynd i edrych ar ei siop ddillad ac anrhegion yr oedd hi'n ei rhedeg ym Mhontypridd am dros 12 mlynedd.
Pan gyrhaeddodd hi, roedd Kookoo Madame dan ddŵr.
"Fe gyrhaeddais i yma am 05:45, ac yma i fy nghroesawu oedd y ddelwedd anghredadwy yma o bedair neu bum troedfedd o ddŵr o flaen y siop," meddai.
Roedd Ms Jamal yn benderfynol o ailagor, ond wedi dyfodiad y pandemig roedd yna oedi i'w chynlluniau.
O'r diwedd, agorodd mewn adeilad newydd yn y dref ym mis Hydref, ond mae'n cydnabod eu bod wedi bod yn frwydr i gadw'r busnes i fynd.
"Fe gawson ni ddiwrnod agor gwych, ond yn anffodus dim ond am 10 diwrnod na'th hynny bara achos fe aethon ni i mewn i gyfnod clo arall, felly doedd e ddim yr amseru gore.
"Ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi fe wnaethon ni'n arbennig o dda.
"Ar hyn o bryd mae'n anodd iawn, ac rydyn ni'n llythrennol yn byw mewn gobaith y byddwn ni'n gallu agor yn fuan.
"Mewn gwirionedd mae'n anodd gweld sut gall unrhyw fusnes oroesi os yw hyn yn parhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020