Doug Mountjoy, un o oreuon snwcer Cymru, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Doug Mountjoy, un o oreuon snwcer Cymru erioed, wedi marw yn 78 oed.
Daeth yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd yn 1981, un o ond chwe Chymro erioed i gyrraedd cystadleuaeth fwyaf y gamp.
Roedd yn gweithio mewn pwll glo cyn troi'n broffesiynol yn hwyrach nag eraill, pan oedd yn 34 oed.
Fe ddechreuodd ei yrfa broffesiynol gan ennill y Meistri yn 1977 ac mae hefyd yn un o bedwar Cymro i ennill Pencampwriaeth y DU.
Cafodd Mountjoy ei eni yn Nhir-y-Berth ger Caerffili ar 8 Mehefin 1942, a chafodd ei fagu ger Glyn Ebwy ym Mlaenau Gwent.
Cyn troi'n broffesiynol, enillodd Mountjoy nifer o gystadlaethau amatur ac roedd yn bencampwr amatur Cymru ddwywaith cyn ennill teitl amatur y byd yn 1976.
Trodd yn broffesiynol flwyddyn yn ddiweddarach, gan guro pencampwr y byd ar y pryd, Ray Reardon, yn rownd derfynol y Meistri.
Enillodd nifer o gystadlaethau eraill, yn cynnwys Pencampwriaeth y DU yn 1978 ac 1988, a chwaraeodd gyda Reardon a Terry Griffiths i ennill Cwpan y Byd yn 1979 a 1980 i Gymru.
Cafodd ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint yn 1993, a chystadlodd am y tro olaf ym Mhencampwriaeth y Byd y flwyddyn yna.
Ond gwellodd o'r salwch a throdd i hyfforddi yn 1997.